Y stori orau ar Caron360 yn 2020: dewis y bobol

Cyfle i bobol Tregaron a’r ardal bleidleisio am eich hoff stori leol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mewn blwyddyn lle mae golygon cymaint ohonom wedi troi at ein milltir sgwâr, rydym wedi gweld cynnydd anhygoel yn y defnydd o’r gwefannau bro. Mae’r 7 gwasanaeth lleol-iawn wedi bod yn ffynhonnell amhrisiadwy o straeon, gwybodaeth a difyrrwch i gymaint o bobol eleni. Maent hefyd wedi bod yn gofnod o sut fu bywyd pobol a’n cymunedau yn ystod un o’r blynyddoedd mwyaf rhyfedd mewn cof.

Er gwaetha’r Covid – y canslo a’r diffyg dod ynghyd arferol – cyhoeddwyd dros 1230 o straeon bro yn 2020, ac erbyn hyn mae dros 430 o bobol leol wedi cyhoeddi stori ar eu platfform lleol.

I ddathlu hynny, bydd Bro360 yn cynnal seremoni wobrwyo ym mis Ionawr, lle byddwn yn cyhoeddi eich hoff straeon chi ar bob gwefan fro!

Rhestr fer Caron360

Dyma’r 6 stori fwyaf poblogaidd (yn ôl yr ystadegau) ar Caron360 eleni. Porwch trwyddynt, a phleidleisiwch trwy bwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod eich hoff stori.

  • Aelod o The Struts adref yn Llanddewi Brefi – Mared Jones ac Enfys Hatcher Davies 
IMG_20201014_181048

Aelod o The Struts adref yn Llanddewi.

Enfys Hatcher Davies

Y drymiwr, Gethin Davies sy’n clebran â Mared Jones am ei fywyd ‘Rock Star.’

 

  • Bachgen o Fronant yn pobi drwy’r pandemig – Nest Jenkins

Bachgen o Fronant yn pobi drwy’r pandemig

Nest Jenkins

Cyfle i ddod i adnabod Gareth Davies sy’n creu cacennau anhygoel yn ei siop newydd

 

  • Cael babi yn ystod y clo mawr – Megan Jenkins / Enfys Hatcher Davies 

Cael Babi yn ystod y Clo Mawr

Enfys Hatcher Davies

Babi a Mami newydd sbon yn ystod Locdawn. Megan Jenkins sy’n rhannu ei phrofiadau mewn cyfweliad.

 

  • Cyfarfod clwb yng nghanol Covid – Meirian Morgan
Aelodau ac Arweinyddion yn barod i ddechrau

Cyfarfod Clwb yng nghyfnod Covid

Meirian Morgan

CFfI Llangeitho yn cwrdd yn yr awyr iach i godi arian.

 

  • Profiad cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Tregaron o’r coronafeirws – Hefin Richards/Manon James  
Hefin Richards

Profiad cyn ddisgybl Ysgol Uwchradd Tregaron o’r coronafeirws

Manon Wyn James

Hefin Richards sy’n rhannu ei brofiad o’i gyfnod yn Ysbyty Amwythig lle bu’n brwydo’r feirws am 5 wythnos. Magwyd Hefin ar Fferm Pwllpeiran, Cwmystwyth gyda’i fam a’i dad – y diweddar Joan ac Islwyn Richards. Erbyn hyn mae’n byw ger y Trallwng gyda’i wraig Bethan.

 

  • Tregaron. Twll o le? – Enfys, Megan a Zara

Y stori orau ar Caron360 yn 2020: dewis y bobol

Lowri Jones

Cyfle i bobol Tregaron a’r ardal bleidleisio am eich hoff stori leol

 

Felly, dyna’r 6 ddaeth i’r brig o ran yr ystadegau. Ond pa un sy’n dod i’r brig i chi?

Pleidleisiwch, trwy…

  1. mewngofnodi neu ymuno â’r wefan hon (creu cyfrif)
  2. mynd i’ch hoff stori
  3. pwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod y stori honno

Bydd eich hoff stori ar Caron360 yn cael ei chyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig ddiwedd mis Ionawr.