Mae Cylch Ti a Fi newydd yn dechrau, wedi ei gynnal gan Hwb Cymunedol Ysgol Rhos Helyg ac mewn cyd-weithrediad â Chylch Meithrin Llangeitho yn Neuadd Jiwbilî, Llangeitho.
Dewch i ddathlu’r Hen Galan ym Mronant! Noson yng nghwmni’r Fari Lwyd, ynghŷd â Pharti Camddwr a Thriawd Rhydlwyd. Festri Capel Bronant Nos Fercher 22/01/25 7.30pm