Cyfarfod Clwb yng nghyfnod Covid

CFfI Llangeitho yn cwrdd yn yr awyr iach i godi arian.

Meirian Morgan
gan Meirian Morgan
Aelodau ac Arweinyddion yn barod i ddechrau
Y rhedwyr yn gorffwyso ar ol gorffen

Cyfarfod clwb go wahanol oedd hi bore yma, wrth i ni ymgynnull ar gylchfan y pentref er mwyn cefnogi ymdrechion un o’n haelodau Gwenno Davies.

Mae Gwenno wedi rhoi sialens i’w hun o redeg 100 o filltiroedd yn ystod mis Tachwedd er mwyn codi arian i elusen Dementia UK. Gan nad yw’r clwb wedi cwrdd ers ein Cyfarfod Blynyddol, fe wnaethom benderfynu cwrdd i gerdded a rhedeg wrth helpu Gwenno i wneud ei milltiroedd i fyny. Mae Gwenno wedi ymgymryd â’r her yma gan fod ei mam-gu yn dioddef o’r cyflwr ofnadwy yma.

Fe wnaeth saith person dewr mentro rhedeg y 6 milltir go galed o amgylch Capel Betws, allan i’r ‘Rattal a nôl i Langeitho trwy Stag’s Head. Fe wnaeth y gweddill ohonom gerdded o amgylch cylchdaith Felinfawr, trwy Gapel Betws mas i Barc Rhydderch a nôl i’r pentref. Roedd y rhedwyr yn aros amdanom, wedi cael dŵr, pop a siocled o’r siop! Roedd hi’n hyfryd cael cyfle i gloncan ar y sgwâr gan nad ydyn ni wedi cwrdd gyda’n gilydd er mis bellach.

Mae gan Gwenno dudalen facebook i godi arian, dyma’r linc i unrhyw un sydd eisiau cefnogi Gwenno yn ei hymdrechion.

Fe wnaethom drefnu’r wâc yma, gan ein bod fel aelodau wedi trafod gweithgareddau’r clwb dros y flwyddyn sydd i ddod yn ein cyfarfod blynyddol mis diwethaf. Roedd yn amlwg yn y cyfarfod bod dim stumog gyda neb i gynnal gweithgareddau rhithiol ar blatfformau megis zoom, gan ein bod wedi danto a gweld pobl drwy sgrin dros y cyfnod clo. Rydym felly am drio cynnal gweithgareddau hwylus ac mewn person, gan sicrhau ein bod yn dilyn rheolau a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Wrth feddwl am dymor y Nadolig, mi fyddwn yn cynnal sialens Nadolig i’r ardal gyfan wrth ofyn i bawb addurno boncyff Nadolig. Wrth gwrs ein beirniad fydd ein harweinydd a chogydd benigamp Helen McAnulty Jones. Felly edrychwch mas am hysbysebion y sialens!