Profiad cyn ddisgybl Ysgol Uwchradd Tregaron o’r coronafeirws

Hefin Richards sy’n rhannu ei brofiad o’i gyfnod yn Ysbyty Amwythig lle bu’n brwydo’r feirws am 5 wythnos. Magwyd Hefin ar Fferm Pwllpeiran, Cwmystwyth gyda’i fam a’i dad – y diweddar Joan ac Islwyn Richards. Erbyn hyn mae’n byw ger y Trallwng gyda’i wraig Bethan.

Manon James
gan Manon James
Hefin Richards

Hefin yn cryfhau yn yr ysbyty

Ar ôl misoedd o olchi dwylo, gwisgo mygydau a chadw draw o fannau prysur, ar Nos Fercher Tachwedd y 4ydd fe gyrhaeddais adre ar ôl diwrnod hir, yn teimlo’n flinedig.

Bore drannoeth, dyma’r peswch yn cychwyn a meddwl yn sicr bod Covid 19 wedi cyrraedd. Trefnu prawf, a chael hwnnw o fewn oriau cyn mynd adre i’r gwely â gwres, peswch a blinder.

Roedd bob rhan o fy nghorff yn boenus ond dros y 4 diwrnod nesaf fe gychwynnais i deimlo’n well, ond gyda phrinder anadl. Ar ôl ffonio’r meddygon, fe ddywedon nhw y dylai hyn basio.

Erbyn drannoeth roeddwn yn teimlo’n well ymhob ffordd ond am ddiffyg anadl, ac fe benderfynais i fynd i eistedd yn yr ardd am awyr iach. O fewn munudau roedd Bethan yn gweiddi ac erbyn i fi ddeall beth oedd hi’n dweud roedd hi ar y ffôn yn galw ambiwlans.

Rydyn yn ffodus i fyw allan yn y wlad, wrth ymyl un o bentrefi olaf Cymru, ond llai na hanner awr o’r ysbyty cyffredinol mawr yn Yr Amwythig. Ar ôl cyrraedd a chael oxygen yn yr ambiwlans roeddwn i yn teimlo’n fwy cysurus ac yn siŵr taw diwrnod neu ddau y byddwn i yno.

Yna symud i’r ward – dros 30 o gleifion â Covid, a chael oxygen ddydd a nos. Ar ôl cychwyn digon da yn fy meddwl i, yn orie cynnar y bore fe gychwynnodd pethau fynd o chwith a’r newydd fod angen symud i’r uned gofal dwys ar un waith. Gyda thiwb trwy fy nhrwyn rhag ofn fyddai rhaid mynd ar ventilator a weiars ymhob man, nodwyddau yn y ddwy fraich, mwgwd tynn dros fy wyneb ag aer a llawer iawn o oxygen o dan bwysau yn cael ei wasgu mewn i fy ysgyfaint, fe gychwynnodd y broses. Roedd Nyrs hyfryd o’r enw Shula wrth fy ochr drwy’r nos.

Fe fuodd dau ddiwrnod heb i mi waethygu, ac wedyn dechrau gwella yn araf. Pan gyrhaeddais i, fe ofynnais beth allwn i wneud, os rywbeth i wella fy sefyllfa – fe ddywedodd Dr Elin Roddy “you need to prone – try and do it for 3-4 hours, more if you can manage it – this will get the oxygen around the lungs and help reclaim the damaged sites” Ystyr hyn yw gorwedd wyneb lawr er mwyn lleihau pwysau ar yr ysgyfaint. Roeddwn i mor benderfynol i wneud, fe wnes i hyn am rhwng 10 a 12 awr y dydd.

Mae’n debyg erbyn hyn fod y meddygon o’r farn fod hyn yn holl bwysig ac fe ddwedodd un wrtha’i “all those hours you spent proning kept you off a ventilator and probably saved your life – you are going to make it!” Mae’n amlwg fod pethau wedi bod yn fwy difrifol nad oeddwn wedi deall! 

Rwy’n un o’r rhai ffodus – dylai amser ddod â gwellhad llwyr. Ar ôl dros 3 wythnos yn yr uned gofal dwys, ond ar ddihun ac yn medru codi i’r stôl bob dydd fe welais achosion trist dros ben. Sawl un wedi colli’r frwydr – er ymdrechion enfawr y tîm meddygol – deffro a chlywed yr holl gynnwrf, llenni yn cau ar frys, wedyn tawelwch. Rhai mewn oedran, rhai yn iau na fi, dynion a menywod. Teuluoedd yn siarad â nhw bob dydd ar “Facetime” heb wybod os oeddent yn ymwybodol neu beidio. Teuluoedd yn gorfod dweud ffarwel yn yr un ffordd, a nyrsys yn dal llaw y claf wrth iddynt golli’r frwydr. 

Roedd pob un a gollwyd yn ergyd bersonol i bob meddyg a nyrs yno fel dywedodd un nyrs wrtha i: “every one of you that makes it keeps us going – the ones we lose hits us hard.” 

Hwyrach ein bod ni yng nghefn gwlad wedi teimlo’n saffach na rhai. Roeddwn i o’r farn fy mod i a’r teulu wedi bod yn gall ac yn ofalus, ond cyrraedd wnaeth Covid , bosib o archfarchnad brysur dros y penwythnos cynt.

Diolch byth fod y brechlyn wedi dod o’r diwedd, rhy hwyr i fi a miloedd o rai eraill, ond â gobaith am y dyfodol. Mae hyn wedi bod yn brofiad anodd dros ben, heb weld Bethan na’r teulu na ffrindiau ers pum wythnos, ac yn teimlo fel hen ddyn ar ôl unrhyw ymdrech. 

Byddwch yn ofalus, a meddyliwch beth alle hyn feddwl i chi, eich teulu, neu ffrindiau. Mae’r feirws yma yn glyfar – rhai heb wybod fod e arnynt, rhai eraill yn ddifrifol wael, ac yn marw.

Dwi’n edrych ‘mlaen i gael Nadolig tawel, ac os wnaiff darllen fy mhrofiad arbed un achos o’r salwch erchyll yma drwy wneud i chi feddwl am eich penderfyniadau dros yr wythnosau nesaf, fe fydda i a’r NHS yn falch dros ben! 

 

Ymunwch â’r sgwrs

Gwynfryn Evans
Gwynfryn Evans

Dymuniadau gorau i ti Hefin. Falch iaw o wybod dy fod yn gwella. Cofia fod hogie Harper yn hogie cryf.
Pob bendith.
Gwynfryn