Cwrdd Diolchgarwch Teuluol

Capel Bwlchgwynt

Delyth Rees
gan Delyth Rees
received_702818787891885

Bore Sul, 1af o Hydref croesawyd y gynulleidfa i’r Cwrdd Diolchgarwch Teuluol gan y Bugail ac roedd yn braf i weld y festri’n llawn.

Cyflwynwyd yr emynau gan Anni Grug Lewis Hughes, Mabli Dark ac Alicia Arthur a darllenwyd gan Lois Davies ac Osian Jones. Cafwyd eitem swynol gan blant Clwb yr Ysgol Sul gyda Catherine Hughes yn cyfeilio.

Thema’r gwasanaeth yn naturiol oedd ‘Diolch’ a chafwyd stori ‘Porthi’r Pum Mil’ gan y Bugail. Roedd pob llygad yn ei wylio wrth iddo baentio’r llythrennau ar y bwrdd o’n blaen! Gwnaed y casgliad gan Ifan Lawlor ac Osian. Diolchwyd i bawb a gymerodd ran ac i Catherine am gyfeilio gan Ifan Gruffydd.

Mae Clwb yr Ysgol Sul yn cyfarfod bob prynhawn Iau rhwng 3.30 a 5 o’r gloch a’r Clwb Ieuenctid ar Nos Fercher rhwng 5.30 a 7.00. Mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno yn yr hwyl.

Cynhaliwyd Cwrdd Diolchgarwch Bwlchgwynt ar nos Iau, 5ed o Hydref. Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan y Bugail. Y pregethwr gwadd oedd Parchg. Beti Wyn James o Gaerfyrddin a chafwyd oedfa fendithiol a thymhorol ganddi.