Clecs Caron – David Bennett

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron. Y mis ’ma, David Bennett.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Enw: David Bennett 

Cartref: Arwel, Tregaron 

Teulu: Nerys (Gwraig) Gethin a Dafydd (Meibion)  

Gwaith: Cynnig gwasanaeth ysgythru yn siop Anrhegaron, Tregaron 

Beth yw dy gysylltiad â Bro Caron? Dyma fy nghartref 

Disgrifia dy hun mewn tri gair. Cymwynasgar, hapus a theg

Unrhyw hoff atgof plentyndod. Carnifal Tregaron. Roedd Mam yn ein gorfodi ni i wisgo lan bob blwyddyn , ond erbyn heddiw mae’r atgofion yn rhai melys iawn ac rwy’n ddiolchgar iddi. 

Yr eiliad o’r embaras mwyaf. Fy swydd gyntaf fel Blaenor newydd oedd derbyn corff i mewn i’r capel ac fe ganodd fy ffon symudol!  

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn. Dangos parch a  gonestrwydd a thrin pawb yr un fath ta beth yw eu cefndir. “Gwnewch i eraill fel y carech iddynt hwy wneud i chwi.” 

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed? Gwna yn siŵr dy fod yn gofyn digon o gwestiynau am gefndir teuluol ac eiddo dy dad a’th fam cyn ei bod hi’n rhy hwyr. 

Y peth gorau am yr ardal hon? Y gymuned a’u phobl brwdfrydig a gweithgar sy’n cynnal nifer o ddigwyddiadau ac sy’n barod i godi arian at achosion da ac elusennau. Profwyd natur ein cymuned arbennig yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2022.  

Y peth gwaethaf am yr ardal hon? Dim banciau, chweched dosbarth, pwll nofio na llyfrgell. 

Beth sy’n mynd ar dy nerfau? Pobl sydd yn barod i farnu ond sydd ddim yn cyfrannu at ddim eu hun.  

Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario? Adeiladu pwll nofio i’r gymuned a mynd ar wyliau i wylio’r Llewod yn Awstralia yn 2025! 

Beth sy’n codi ofn arnat? Pa mor rhwydd y mae cyffuriau ar gael yn ein trefydd 

Pryd es ti’n grac ddiwethaf? Pan gwnaeth Leeds United (Fy hoff dim pêl-droed) disgyn o’r “Premiership” nol yn Mis Mai. 

Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti? Paid a newid dy gymeriad. (Cyngor Dai Morris, cynt o LLys y Coed) 

Beth yw dy hoff air? Diolch 

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol? Hedy Navidi (tad Josh Navidi) 

Beth yw dy ddiod arferol? Peint o lager

Beth yw dy hoff bryd o fwyd? Stecen, taten pob, “onion rings” a saws pupur.

Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen? Mynd i weld “Abba Voyage” yn Llundain, profiad anhygoel 

Beth sy’n dy wneud di’n unigryw? ‘Rwy’n Gymro er i mi gael fy ngeni yn Epsom. Ar y pryd roedd fy rhieni yn gweithio yno nôl yn y 60’au. 

Dere ag un ffaith ddiddorol amdanat ti. A’r ddechrau’r 80’au ‘roeddwn yn chwarae’r allweddellau mewn band o’r enw “Eco Broc” 

Beth yw/oedd dy uchelgais mewn bywyd? Fy uchelgais yw byw bywyd hapus gyda fy nheulu, a gweld gymaint o’r byd ag sy’n bosib. 

Naill ai neu:

  1. Rygbi neu bêl-droed? Y ddau
  2. Y traeth neu’r mynyddoedd? Traeth
  3. Nadolig neu ben-blwydd? Nadolig
  4. Ffilm neu nofel? Ffilm
  5. Creision neu siocled? Creision
  6. Bara gwyn neu frown? Bara gwyn
  7. Tywydd oer neu dwym? Twym
  8. Codi’n gynnar neu aros lan yn hwyr? Y ddau!

Bydd y cyfweliad yn ei gyfanrwydd yn rhifyn nesaf Y Barcud.