Talwrn y Beirdd Bont

Talwrn y Beirdd i ddathlu 60 mlynedd Eisteddfodau Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid

gan Efan Williams
8a9e19a7-f8cb-45bc-af1e-00d0d24e3174

Bwrlam Talwrn y Beirdd Bont

8a76de50-cadf-4c8e-a94d-d2605a7811d9

Elin Williams, Tregaron, enillydd Tlws yr Ifanc gyda’r beirniaid, Aneurin Karadog a Tudur Dylan Jones

33c3d6f3-b0aa-45b6-be6d-8076dadfae61

Cadeirydd Eisteddfod Pantyfedwen yn cyflwyno’r tlws i’r tîm buddugol, Tîm Ysgol Farddol Caerfyrddin.

f41e74c9-ae6a-4e30-bab8-634fdb2f8bd3

Y meurynod, Aneurin Karadog a Tudur Dylan Jones gyda John Jones, Ffair Rhos

c3d54d9f-5ffb-49c5-81fe-dc539a207af5

Y gadair hardd o waith crefftus Gwylon Evans, yn rhoddedig gan Theo, Macsen a Sophia, wyrion Ted Jones.

f4529504-bad1-4eee-879f-ffe4eee350ad

Elin Williams gyda Ted Jones.

Cawsom noson i’w chofio yn Nhalwrn y Beirdd Dathlu 60 mlynedd Eisteddfodau Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid i gloi’r eisteddfodau nos Sul y 6ed o Fai.

Daeth tyrfa dda ynghyd i fwynhau’r arlwy yng nghwmni tri thîm Talwrn, sef Tîm Ysgol Farddol Caerfyrddin, Tîm Tafarn y Vale a Thîm Ffair Rhos. Y meurynod oedd Tudur Dylan Jones ac Aneurin Karadog ac roedd y noson yn nwylo John Jones, Ffair Rhos. Braf hefyd oedd cael cadeirydd pwyllgor llên yr eisteddfodau, Ted Jones, yn bresennol.

Cyflwynwyd gwobr Tlws yr Ifanc i Elin Williams, Tregaron, un sy’n gefnogwraig ffyddlon i’r eisteddfodau. Cyflwynwyd y tlws o waith Gwylon Evans gan Neli Jones, ysgrifenyddes yr eisteddfodau. Enillwyd tasg ysgrifennu limrig ar y noson gan Enfys Hatcher, Llanddewi Brefi. Pencampwyr y talwrn o drwch blewyn oedd Tîm Ysgol Farddol Caerfyrddin a chyflwynwyd y tlws iddynt gan gadeirydd Eisteddfodau Pantyfedwen, Efan Williams.

Roedd hi’n noson amrywiol iawn gyda nifer o gyfraniadau cofiadwy ond heb os nac oni bai, y cyfraniad a gafodd yr ymateb orau ar y noson oedd y delyneg hon o waith Alun Jenkins, Ffair Rhos;

Dechreuais i farddoni flynyddoedd maith yn ôl

Tra’n casglu mwyar duon, mewn mynwent ger Tre’ddôl.

Es ‘adre ‘da llond bwced, ond nid o’r mwyar du,

Ond englynion cerrig beddau, gan feirdd o’r oes a fu.

Trueni eu bod yno, ymhell o ddyn a’i glyw,

Es ati i’w hailgylchu, i ail droedio tir y byw.

Cystadlu wnes â’r englyn, ‘O fawl a chlod i’r crydd’

Gan gipio’r wobr gyntaf, mewn ‘steddfod ger Caerdydd.

Yn ddigon pell o gartref, gwell ydoedd chwarae’n saff

Fe gewch chi ambell feirniad, neu Brifardd eitha’ craff.

Ac yna’r llyfr yma, a ddaeth i law un dydd

Trysorfa’n llawn hen relics, barddoniaeth caeth a rhydd.

Benthyca wnaf linellau, fan feirdd sy’n fawr eu dawn

Hawdd ydyw eu cyfuno, ond cael yr odl iawn.

A dyma i chi enghraifft, o gerdd fach syml llon

Cyfuniad o waith Wordsworth, a Cheiriog ydyw hon.

 

                        Daffodiliaid.

Wele’n tyfu tri ar ddeg, o daffodils ar fore teg,

A chapten Madog ddewr ei fron, y fe yn awr yw Monty Don.

‘Beside the lake, beneath the trees’; yn plannu bylbs, ‘down on his knees’.

Ie antur enbyd ydyw’n wir, ‘da Monty Don mewn anial dir.

 

O’r beirdd sydd yma heno, beirdd ifanc a rhai hun,

A ydych chi’n ailgylchu, neu y fi yw’r unig un?

Felly, yr hyn a ddywedaf yma, a’i ddweud yn hollol blaen

Nid yw ailgylchu cerddi, yn gwbwl groes i’r graen.

Hir oes i Dalwrn y Beirdd Eisteddfodau Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid. Ymlaen i’r 60 mlynedd nesaf!