TregaRoc yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed!

Dydd Sadwrn Mai 18fed 2024

gan Fflur Lawlor

Bydd dathliad mawr yn Nhregaron ddydd Sadwrn 18 Mai wrth i’r dref edrych ymlaen at Ŵyl Gerddoriaeth Gymraeg ‘TregaRoc’ eleni.

Yn ei steil arferol, bydd TregaRoc yn symud drwy’r dref, gan ddiddanu torfeydd gyda rhai o’r adloniant a’r bandiau Cymraeg mwyaf Cymru. Bydd dydd Sadwrn 18 Mai yn dechrau y tu allan i’r Talbot am 1yp ac yna’n symud ymlaen i’r Clwb Bowlio ac yn gorffen yn y Clwb Rygbi.

Mae’r diwrnod yn rhad ac am ddim, a bydd torfeydd yn cael eu diddanu gyda’r llwyfan gyntaf, ar y sgwâr Fawr tu allan i’r Talbot. Mae’r adloniant yn cynnwys, Sara Davies, enillydd ‘Cân i Gymru 2024’, Ysgol Henry Richard, Elin ‘Cyw’, ‘Doreen a’r band’ a Baldande.  Yna bydd gorymdaith gyda Band RT Dixie yn hebrwng y torfeydd o’r sgwâr mawr ac yn syth i Glwb Bowlio lle bydd yr adloniant yn parhau o ‘Morgan Elwy a’r band’ a ‘Mynediad am Ddim’ sy’n dathlu eu 50 mlynedd o adloniant Cymraeg. Os ydych wedi bod yn ffodus i gael tocyn bydd y diwrnod yn parhau yna yn y babell y tu allan i’r Clwb Rygbi lle bydd cerddoriaeth gan ‘Dros Dro’, ‘Ynys’, Bwncath a ‘#Band6’.

Dywedodd trefnwyr TregaRoc “Mae TregaRoc yn rhoi llwyfan i fandiau Cymraeg berfformio yn ein hardal ni. Mae pobl ar draws Cymru yn dod i’r ŵyl ac mae’n gyfle gwych i gwrdd â hen ffrindiau. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gallu creu gŵyl gerddoriaeth wych ar stepen ein drws, gan hyrwyddo’r Gymraeg a phopeth gwych sydd gan ein hardal i’w gynnig”.

Yn anffodus, mae pob tocyn ar gyfer y babell ar ddiwedd y noson wedi gwerthu allan, ond mae’r trefnwyr yn annog cymaint ohonoch â phosibl i ddod draw i Dregaron yn ystod y dydd i fwynhau’r gerddoriaeth fyw a’r awyrgylch gwych sydd gan y digwyddiad i’w gynnig i bob oedran. Am ragor o fanylion, dilynwch TregaRoc ar bob sianel cyfryngau cymdeithasol.

Derbynnwyd cyllid tuag at y prosiect yma gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chymorth Cynnal y Cardi gan Cyngor Sir Ceredigion.

Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth yma.