Clecs Caron – David John Edwards

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron. Y mis ’ma, David Edwards.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
david-edwards

Enw: DAVID JOHN EDWARDS

Cartref: SUNNY SIDE, TREGRON

Teulu: UNIG BLENTYN I`R DIWEDDAR JOHN AC EUNICE EDWARDS

Gwaith: SAER COED AM 12 MLYNEDD, POSTMON AM 25 MLYNEDD AC WEDI YMDDEOL ERS 8 MLYNEDD

Beth yw dy gysylltiad â Bro Caron? WEDI BYW YMA ERS BRON I 60 MLYNEDD

Disgrifia dy hun mewn tri gair. GONEST, CYFEILLGAR, HELPU.

Unrhyw hoff atgof plentyndod. TYFU FYNY MEWN SIOP BENTRE.

Yr eiliad o’r embaras mwyaf. ANGHOFIO GEIRIAU A GORFOD CAEL PROMPT MEWN CYSTADLEAETH DRAMA Y FFERMWYR IFANC.

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn. I DDANGOS PARCH TUAG AT BOBOL MEWN OED.

Pwy yw dy arwyr? STEVE DAVIES O FYD Y SNWCER.

Y peth gorau am yr ardal hon?  EI BOD YN ARDAL GYFEILLGAR.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?  Y TORIADAU MAE CYNGOR CEREDIGION WEDI GWNEUD I DREGARON.

Beth yw dy ddiddordebau? CHWARE BOWLS, DILYN RASIO HARNESS, PYSGOTA.

Beth sy’n codi ofn arnat?  LLYGOD FFYRNIG.

Pryd llefaist ti ddiwethaf?  AMSER COLLI MAM.

Pryd es ti’n grac ddiwethaf?  TUA MIS YN ÔL, CYN CHWARE YN FFEINAL BOWLS CEREDIGION.

Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti?  CER I GOLEG I DDYSGU CREFFT.

Beth yw dy hoff air?  DIOLCH.

Beth yw dy ddiod arferol?  PEINT O WORTHINGHTON.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?  GAMMON, WY A CHIPS.

Beth sy’n dy wneud di’n unigryw? BAROD I HELPU PAWB.

Beth yw/oedd dy uchelgais mewn bywyd?  ENNILL CYSTADLEAITH BOWLS AC YNA CYNRYCHIOLI TREGARON A CEREDIGION YM MHENCAMPWRIAETHAU CYMRU YN LLANDRINDOD.

Naill ai neu:

  1. Te neu goffi? TE
  2. Y traeth neu’r mynyddoedd? Y MYNYDDOEDD
  3. Nadolig neu ben-blwydd? PEN-BLWYDD
  4. Ffilm neu nofel? FFILM
  5. Creision neu siocled? CREISION

Bydd y cyfweliad yn ei gyfanrwydd yn Rhifyn nesaf Y Barcud.

Yn ateb Clecs Caron y tro nesaf mae DAVID BENNETT.