Carnifal Llanddewi Brefi

Eira-wen a’r 7 Corach Bach

gan Eirwen James

Diolch I Gronfa Gymunedol y Loteri daeth cyfle arall i bentrefwyr Llanddewi Brefi  fwynhau gweithgaredd gyda mynediad ac adloniant am ddim.

Tablo’r plantos ddaeth i’r brig  gyda’u portread o Eira-wen a’r 7 Corach bach. Yn ail yn y gystadleuaeth daeth Sefydliad y Merched a’r Cneifiwr. Dewis SyM oedd y Wenynen Wnïo 🐝 gyda’u fersiwn o’r Sewing Bee.

Daeth llond llwyfan o blant i gystadlu yn yr adrannau unigol a hyfryd fu cael cyfle i ymlacio mewn awyrgylch bentrefol a chyfeillgar gyda digonedd o fwyd. Cafwyd cerddoriaeth jazz yn y prynhawn a Gwi Jones yn diddanu yn yr hwyr.. Cyfle i hamddena, dawnsio a mwynhau.

Pawb yn cyd-dynnu a digon o Hwyl.