Llwybr Hanes Tregaon

Dewch am dro o amgylch tref hanesyddol Tregaron yng nghwmni Archifdy Ceredigion

Mair Humphreys
gan Mair Humphreys

Fel rhan o gyfres Teithlyfrau Hanes Archifdy Ceredigion mae’n bleser gennym gyhoeddi teithlyfr newydd ‘Llwybr Tref Tregaron’.  Mae’n gyfle i fynd am dro o amgylch y dref a chael eich cyflwyno i rai o olygfeydd hanesyddol y dref, gan gynnwys trigolion enwog, troseddau a chosbau, a hyd yn oed pysgodyn anferth.

Mae’r Teithlyfr yn cael ei lansio am 11 y bore ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, y 6ed Mai 2024 yng Nganolfan Treftadaeth Tregaron.  Croeso cynnes i bawb.

Os yw’r llyfryn yn codi awydd arnoch i ddarganfod mwy yna mae croeso cynnes i chi ymweld ag Archifdy Ceredigion yn Hen Neuadd y Dref Aberystwyth.  Gellir cael mwy o wybodaeth am yr Archifdy ar ein gwefan:  www.archifydy-ceredigion.org.uk