Eisteddfod Pantyfedwen yn dathlu 60 mlynedd o fedel Pantyfedwen

3 – 5 Mai, 2024

gan Efan Williams

Mae’r Eisteddfodau yn y Bont yn dathlu 60 mlynedd o fodolaeth eleni. Cynhaliwyd yr eisteddfodau cynta’ ar ben-wythnos y Sulgwyn 1964, ac mae’r eisteddfodau wedi eu cynnal yn ddi-dor ers hynny, ar wahan i flwyddyn clwy’r Traed a’r Genau yn 2001 ac adeg y Covid 19. Bydd cyfres o ddigwyddiadau i gyd-fynd â’r eisteddfodau yn cael eu cynnal yn ystod yr haf i ddathlu’r Diemwnt, gyda rhagor o fanylion i ddilyn. Yn y cyfamser, bydd yr eisteddfodau yn cael eu cynnal dros ben-wythnos Gŵyl y Banc, 3-5 o Fai.

Mae nifer o’r pwyllgor presennol yn cofio’r eisteddfod gyntaf. Y babell fawr ar y cae pêl-droed, y disgwyl, y cyffro, y pentre’n ferw. Rhagbrofion ymhob twll a chornel – yr ysgol, y ddau gapel, yr eglwys, y neuadd, y llyfrgell, a phob un dan ei sang. Y baneri croeso o sgwar Ffair Rhos bob cam i’r Bont. Yna’r tri thafarn lleol –Y Red, Black a Cross Inn, Ffair Rhos yn fôr o ganu fin nos – a mwy o dorf y tu allan nag oddi fewn.

Daeth Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022 ac atgofion o’r dyddiau a fu nol yn y chwedegau a’r saithdegau.

Cyrhaeddodd y corau o bob rhan o Gymru a dros y ffin, gyda’r London Chorale yn eu gynau cochion yn aros yn y cof. Cyngerdd mawreddog ar y nos Sul ac enwogion megis Stuart Burrows, Richie Thomas, Syr Geraint Evans ac artistiaid rhyngwladol eraill yn ein diddanu.

Diflannodd y babell fawr ac adeiladwyd y Pafiliwn gwreiddiol ar yr un safle â’r Pafiliwn newydd heddiw – heb amheuaeth y pafiliwn gorau ar gyfer achlysuron mawr yng Nghymru.

Tyfodd yr eisteddfod yn ŵyl 4 diwrnod a gynhaliwyd yr adeg hynny yn ystod penwythnos gyntaf gwyliau’r Sulgwyn – tridiau o eisteddfod a diwrnod o ŵyl werin, ond oherwydd bod y dyddiad yn amharu ar eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a nifer o gystadleuwyr dan 25 oed wedi ennill eu lle fan hynny, newidiwyd gŵyl Pantyfedwen i benwythnos cyntaf Calan Mai.

Mae nifer a aeth ymlaen i fod yn enwogion Cenedlaethol a rhyngwladol ar lwyfan, theatr a theledu wedi ymddangos ar lwyfan eisteddfod Pantyfedwen, ac mae sawl bardd a aeth ymlaen i’w ddyrchafu’n Brifardd wedi ennill yn y Bont gyntaf.

Cyhoeddwyd cyfansoddiadau llenyddol yn dilyn seremoni’r cadeirio, ’O Fedel Pantyfedwen’ a byddent yn cael eu gwerthu bron i gyd yn syth.

Er bod y torfeydd wedi lleihau, mae’r eisteddfod yn dal i ddenu cystadleuwyr o safon gyda nifer o’n hieuenctid talentog yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi’r cyfle i berfformio ac i dderbyn beirniadaeth o safon er mwyn datblygu ymhellach.

Bellach mae’r eisteddfod fel popeth arall wedi gorfod esblygu; un o’r mentrau llwyddiannus cymharol ddiweddar yw cyflwyno ‘Sadwrn y Sêr’ lle ceir perfformiadau o sioeau cerdd cyfarwydd a chyfoes ynghyd a monologau a darnau theatrig. Er mai cystadleuaeth yw’r noson, ceir ymdeimlad o gyngerdd safonol nas gwelir ei gwell ar lwyfannau’r West End, a hynny am bris tocyn mynediad rhesymol yn unig. Noson boblogaidd arall sy’n denu tyrfa deilwng i gloi’r penwythnos yw ‘Talwrn y Beirdd’ ar y nos Sul.

Wrth edrych ymlaen at benwythnos Calan Mai eleni, estynnir croeso cynnes i chwi ymuno â ni, boed yn gystadleuwyr neu’n gynulleidfa.

Ie, LLONGYFARCHIADAU i Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen ar gyrraedd y garreg filltir bwysig hon.

Dweud eich dweud