Capel Bwlchgwynt

Gwasanaeth Teuluol

Delyth Rees
gan Delyth Rees
IMG-20230618-WA0001
IMG-20230618-WA0004

Bore Sul 16 Mehefin croesawyd pawb i’r Gwasanaeth Pob Oed gan y Bugail. Cyhoeddwyd yr emynau gan Gwion Jac Lewis Hughes, Dutt Panchal , Anita Jones a Delyth Rees. Darllenwyd gan Anni Grug Lewis Hughes ac offrymwyd gweddi gan Ifan Lawlor.

Cafwyd eitem hyfryd gan y plant yn canu un o emynau Gerald Morgan o’i lyfr newydd Gair ar Gân. Geiriau hyfryd ‘Plant y Byd’ ar y dôn Bedwy, trefniant Neli Jones a chyfeiliwyd gan Catherine Hughes. Edrychir ymlaen at ddysgu rhagor o’i lyfr emynau.

Cafwyd neges ddifyr a diddorol gan y Bugail yn sôn am y blodyn bach, Llygad y Dydd gan ddweud fel mae yn troi ei ben ac yn cadw golwg ar yr haul. Aeth ymlaen i ddweud pa mor bwysig yw i bawb i gadw llygad ar yr Iesu bob amser.

Cyhoeddwyd gan Catherine a diolchodd i bawb a gymerodd ran ac i Alice Jones am gyfeilio. Casglwyd gan Anni Grug a Cerith Evans. Llongyfarchodd Arthur Siôn Evans ar ei lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd ac i bawb arall am gystadlu a gwneud mor arbennig o dda. Hefyd estynnodd longyfarchiadau i David Bennett a’i dim ar ennill Twrnament Iau Pêl Droed y Turfs y diwrnod cynt. Rydym yn ymhyfrydu i glywed am lwyddiant ein plant a phobl ifanc. Dymunwyd yn dda hefyd i Averinah Davies a oedd yn dathlu penblwydd arbennig yn ystod yr wythnos.