Capel Bwlchgwynt

Gwasanaeth Undebol Gofalaeth Caron

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Prynhawn Sul, Mai 21 croesawyd aelodau o Ofalaeth Caron i Gapel Bwlchgwynt i’r Gwasanaeth Undebol gan Parchg. Carwyn Arthur.

Thema’r gwasanaeth oedd y Sulgwyn a chafwyd neges fendithiol gan y Gweinidog i’r plant a’r oedolion

Cyhoeddwyd yr emynau gan Meira Lloyd Harries, Roy Cope, Osian Jones a Mair James. Darllenwyd o’r Ysgrythur gan Ianto James a Lois Davies. Cafwyd eitem hyfryd gan blant Ysgol Sul Bwlchgwynt yn canu ‘Duw sy’n codi ei dŷ’ i gyfeiliant Catherine Hughes.

Llinos James oedd yr organydd a chasglwyd gan Cerith Evans. Diolchwyd i bawb a gymerodd ran gan Gareth Jones.

Braf oedd cael cymdeithasu dros baned o de yn y festri i ddilyn y gwasanaeth.