“Cyfle arbennig” – Prosiect newydd yng Ngheredigion i feithrin entrepreneuriaid y dyfodol

Cyfle i 24 unigolyn gael profiadau arbennig yng nghwmni entrepreneuriaid gorau’r ardal, a thu hwnt.

Bydd prosiect newydd gan Menter a Busnes yn rhoi cyfle i 24 unigolyn lwcus o Geredigion ddysgu a chael profiadau arbennig yng nghwmni rhai o entrepreneuriaid gorau’r ardal, a thu hwnt.

Mae Prosiect SPARC Ceredigion, menter newydd sbon sy’n cael ei ariannu gan Llywodraeth y DU, wedi ei yrru gan Ffyniant Bro a’i rheoli gan y cwmni datblygu economaidd blaenllaw Menter a Busnes yn cael ei lansio’r Medi hwn, gyda dyddiad cau’r rownd gyntaf ddechrau Hydref.

Bydd deuddeg llwyddiannus y rownd gyntaf yn mwynhau ystod o brofiadau dysgu gan gynnwys seminarau, gweithdai a chyfloedd mentora.

Fel rhan o’r prosiect 18-mis, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn treulio dau benwythnos preswyl yng Ngheredigion, a thri diwrnod yn Reykjavik, Gwlad yr Iâ, oll rhwng misoedd Hydref a Rhagfyr eleni. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i’r unigolion i gwblhau tystysgrif ôl-radd lefel 7 ar Arwain Newid drwy Brifysgol Aberystwyth.

Er mwyn ymgeisio ar gyfer SPARC Ceredigion, mae’n rhaid bod yn byw neu gweithio yng Ngheredigion ac yn hyn na 18 oed.

“Os ydych chi’n byw neu’n gweithio yng Ngheredigion ac eisiau dechrau busnes eich hun, yn hoffi’r syniad o sefydlu menter gymdeithasol, neu efallai eich bod yn awyddus i arwain, yna gallai’r cyfle arbennig hwn fod yn berffaith ar eich cyfer chi”

meddai Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Datblygu a Gwledig Menter a Busnes.

“Gyda phrosiect SPARC Ceredigion bydd 24 o bobl leol yn cael mynediad at becyn eang o wybodaeth o’r diwydiant a phrofiad ymarferol. Rydym yn credu y bydd SPARC hefyd yn ysbrydoli ac yn rhoi hyder, gan roi hwb i unigolion gymryd y cam cyntaf tuag at fod yn entrepreneuriaid neu’n arweinwyr. Gydag amser, rydym yn gobeithio y byddent yn buddsoddi’r sgiliau newydd hyn mewn busnesau a mentrau yma yng Ngheredigion, gan ei wneud yn le hyd yn oed yn well i fyw a gweithio.”

Mae’n hanfodol bod ymgeiswyr yn rhydd i fynychu tri chyfnod hyfforddi’r prosiect, a gynhelir ar y dyddiadau canlynol: 20-22 Hydref (Ceredigion), 21-24 Tachwedd (Gwlad yr Iâ) ac 8-10 Rhagfyr (Ceredigion).

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio:

“Mae prosiect SPARC yn fenter newydd arbennig a byddwn yn annog unrhyw un sy’n byw yng Ngheredigion ac am ddatblygu eu sgiliau busnes i fanteisio ar y cyfle gwych hwn.

“Trwy weithio gyda Menter a Busnes, a gyda chymorth gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, rydym yn falch y bydd prosiect SPARC yn darparu cyfleoedd i ddatblygu perchnogion busnes a chyflogwyr y dyfodol ledled Ceredigion. Bydd hyn yn cyfrannu at un o flaenoriaethau corfforaethol allweddol y Cyngor, sef hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth.”

Am ragor o wybodaeth am brosiect SPARC Ceredigion a manylion ymgeisio, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â sparc@menterabusnes.co.uk

Dyddiad cau ceisiadau ar gyfer y rownd gyntaf, sydd â lle i 12 person, yw 10:00am 2 Hydref 2023. Bydd yr ail rownd yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.