Clecs Caron – Mary Lewis

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron. Y mis ’ma, Mary Lewis.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
Mary-Lewis

Enw: Mary Lewis
Cartref: Dolcoed, Tregaron
Teulu: Y diweddar Evan Lewis, Arwel ac Eurfryn – teulu Dolcoed.
Gwaith: Nyrs / Ymwelydd Iechyd

Disgrifia dy hun mewn tri gair.           
Gweithgar, gofalgar, hapus.

Unrhyw hoff atgof plentyndod.
Chwarae’r angel yn sioe Nadolig eglwys pan yn 7 oed.

Hoff raglen deledu pan oeddet yn blentyn. 
Doedd dim teledu ar gael! Ond rhaglen radio “S.O.S. Galw Gari Tryfan.”

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.
Dysgu gyrru car, tra’n canolbwyntio ar yr heol nes i geisio newid gêr ond dal mlan i goes yr instructor yn lle y ‘gear stick!’ 

Pwy yw dy arwyr?
Mamgu, Maes y Gar, Cellan. Florence Nightingale.

Y peth gorau am yr ardal hon?
Y gymdeithas a’r natur brydferth o’n hamgylch.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?
Bod y llyfrgell wedi cau!

Beth sy’n mynd ar dy nerfau?
Bod y banciau i gyd yn cau.

Pryd llefaist ti ddiwethaf? 
Gweld plant bach yn dioddef yn Wcrain a gwledydd eraill ble mae rhyfel.

Wyt ti’n difaru rhywbeth?
Heb wneud mwy o ymarfer corff.

Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti? 
“Paid byth ac anghofio dy filltir sgwâr.” dywedodd mam-gu wrthyf i pan es i i nyrsio.

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd?
Cwrdd ag Evan Lewis pan agorodd gât i fi yn Ysbyty Ystwyth – Oni’n mynd i weld mam a’r babi yn y fferm ac roedd Evan yn mynd i fendio’r ffon.

Beth yw dy hoff air? 
Bendigedig.

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?
Neb enwog ar fy ffôn, ond fe wnes i gyfarfod a chyn-arlywydd America, Jimmy Carter yn Eglwys Sant Caron.

Sut wyt ti’n ymlacio?
Gwylio Countdown, Tipping Point a Lingo ar y teledu a chwarae sudoku, a gwneud croeseiriau!

Pa wefan wyt ti’n ymweld â hi fwyaf aml?
Dim un wefan! Does gen i ddim cyfrifiadur!

Dy wyliau gorau?
Awstralia a Zeland Newydd yn 2006.

Beth sy’n dy wneud di’n unigryw?
Wedi chawrae’r organ yn eglwys sant Caron am 57 mlynedd!

Dere ag un ffaith ddiddorol amdanat ti.
Ges i ngeni yn Llundain ac oherwydd y Blitz ddes lawr ar drên fel faciwi nôl i Gellan yn 1940 i fod gyda mam-gu.

Beth yw/oedd dy uchelgais mewn bywyd?
Bod yn Nyrs a helpu pobl.

Naill ai neu:

  1. Te neu goffi? Te
  2. Y traeth neu’r mynyddoedd? Mynyddoedd
  3. Nadolig neu ben-blwydd? Nadolig
  4. Ffilm neu nofel? Nofel
  5. Ffrwythau neu lysiau? Ffrwythau
  6. Bara gwyn neu frown? Gwyn

Os am ddarllen y cyfweliad yn llawn, bydd yn y rhifyn nesaf o’r Barcud. Bydd Mary’n ateb y cwestiynau isod yno…

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?

Ble mae dy hoff le yn y byd i gyd?

Beth yw dy ddiddordebau?

Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario?
Beth sy’n codi ofn arnat?

Pryd es ti’n grac ddiwethaf?

Beth wyt ti’n fwyaf balch ohono?

Beth yw dy ddiod arferol?

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen?

 

Yn ateb Clecs Caron y tro nesaf… David J Edwards, Tregaron.