Taith Gofalaeth Caron

Dilyn ôl traed

gan Eirwen James
1000019344
IMG_0396
image0

Tro Capel Bwlchllan oedd trefnu’r Daith Gerdded eleni ac roedd paratoadau yn eu lle i’n haelodau i gyd. Rhai yn mentro mas i’r cawodydd dan arweiniad Meleri a Meira. Tywyswyd criw da o aelodau a ffrindiau o Festri’r Capel i Eglwys Nantcwnlle  a chylchdaith o 2 filltir a hanner dros dirwedd amrywiol.

Roedd prynhawn  diddorol o hanes crefydd leol wedi ei baratoi yn y Festri gan y Parch Stephen Morgan a Bronwen Morgan. Gwelwyd cyflwyniad o lefydd perthnasol i Hanes yr Achos –  Pantybeudy, Bwlchdiwyrgam, Tynrhos i enwi dim ond rhai. Diddorol fu clywed hanes Daniel Rowland, Dafydd Jones (Gwallt Hir),  y Teulu Noakes a’r llu fu’n ddylanwadol yn yr ardal. Rhannwyd straeon a dogfennau dadlennol yn cwmpasu helyntion o’r lleol i dalaith Ohio.

Roedd tîm o ardalwyr wedi dod ynghyd i sicrhau llwyddiant y prynhawn. Diolch iddynt bob un. Roedd y cyfle i gymdeithasu, holi a gwrando dros gwpanaid o de yn werthfawr. Yr ‘Eglwys ar waith yn y Gymuned’ go iawn. Mae casgliad yr Ofalaeth eleni yn mynd tuag at yr Uned Strôc a’r Banc Bwyd Lleol. Diolch am eich cyfraniadau.