Clwb Hoci Caron ar y brig!

🏑⭐PENCAMPWYR ⭐🏑

gan Fflur Lawlor

Am ddiweddglo i’r tymor. Ennill 1-7 oddi cartref yn erbyn Prifysgol Aberystwyth.

Sgorwyr y gêm –
Caryl 🏑🏑🏑
Kelly 🏑
Alaw 🏑
Fflur 🏑
Gwenno 🏑

🌟 y gêm – Caryl

A dyna ni, diwedd tymor llwyddiannus â’r tîm ar dop Cynghrair 5 De Cymru.
Chwarae 14 gêm, ennill 12, colli 2 a sgorio 67 gôl! Tipyn o gamp! Ymlaen â ni i gystadlu yng Nghynghrair 4 y tymor nesaf.
🏑💪🏻👌👏🥳🏑

Dweud eich dweud