Merched y Wawr

Cangen Tregaron yng nghwmni Marian Haf

Delyth Rees
gan Delyth Rees
received_824343736205579
received_733626445427310

Ar nos Fercher, y 3ydd o Ebrill croesawyd yr aelodau i’r Neuadd Goffa gan Manon Wyn James. Trafodwyd noson Chwaraeon y rhanbarth a hefyd Gŵyl Fai Ceredigion a gynhelir yn Felinfach.

Gan mai hwn oedd y cyfarfod diwethaf yn y neuadd gan y byddwn yn cynnal gweithgareddau tu allan weddill y tymor etholwyd swyddogion newydd am 2024/25 fydd fel a ganlyn – Lisa Jones (Llywydd), Gwyneth Davies (Ysgrifennydd), Yvonne Jones (Trysorydd). Ffion Medi Lewis-Hughes (Is-lywydd), Delyth Rees (Is-ysgrifennydd), Ann Pugh (Is-drysorydd). Penderfynwyd parhau gyda’r un pwyllgor sef Jan Davies, Catherine Hughes, Margaret Jones, Esyllt Evans, Rhian Jones, Fflur Lawlor ac Ann Morgan. Diolchodd Manon i’r aelodau am ymgymryd at y swyddi.

Estynnwyd croeso cynnes a chyflwynwyd Marian Haf y wraig wadd. Merch leol yw Marian a dechreuodd ei diddordeb yng ngwaith celf pan oedd yn Ysgol Uwchradd Tregaron. Roedd yn ddiolchgar i Mr. Huw Williams ei hathro celf am ei gymorth a’i anogaeth yn ystod y cyfnod yma. Aeth ymlaen a graddio mewn paentio celf gain o Brifysgol Swydd Gaerloyw. Erbyn hyn mae wedi ymgartrefu yn lleol i fagu teulu a sefydlu busnes o gartref. Dechreuodd greu printiau gyntaf yn 2010 pan ymunodd gyda’i grŵp argraffu lleol. Colagraff yw ei ffefryn mawr erbyn hyn ac roedd ganddi luniau arbennig i’w harddangos. Soniodd am ei phrofiad o greu portread o Tara Bethan a ymddangosodd ar gyfres deledu ‘Cymru ar Gynfas’. Cawsom gyfle wedyn i fynd ati i greu printiau blodeuog o dan ei chyfarwyddyd a chafwyd tipyn o hwyl i greu print personol i fynd gartref!

Diolchodd Delyth Rees i Marian am roi o’i hamser prin i ymuno gyda’r gangen a hithau mor brysur. Yn ei ffordd naturiol cafwyd noson ddifyr a diddorol iawn yn ei chwmni. Diolch iddi am rannu ei thalent arbennig ac am ein dysgu i greu print, techneg oedd yn newydd iawn i’r rhan fwyaf ohonom! Mae’n ferch dalentog iawn sydd wedi gwneud enw i’w hun ledled Cymru a thu hwnt! Mae’n galondid i weld pobl ifanc fel Marian yn sefydlu busnes yng nghefn gwlad a dymunwyd yn dda iddi i’r dyfodol.

Enillwyd y gwobrau raffl gan Ann Evans, Bet Jones a Marian Davies. I orffen y noson mwynhawyd paned o de a bisgedi wedi ei baratoi gan y pwyllgor.

Edrychir ymlaen yn awr i’r Te Prynhawn a gynhelir yn yr Hedyn Mwstard ar ddydd Sadwrn, 11 Mai.

Dweud eich dweud