Sioe a Sêl Hyrddod Tregaron

Llond lle yn y mart ddoe.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Gwerthwyd dros 300 o Hyrddod Mynydd Cymreig yn yr arwerthiant blynyddol gan DAG Jones ym Mart Tregaron ddydd Mawrth, 26 Medi 2023.

Roedd y mart yn orlawn gyda phrynwyr a gwerthwyr yn trin a thrafod yr hyrddod.

Gwelwyd prisiau gwych gydol y dydd, gyda 36 ohonynt yn gwerthu am dros 1,000 gini. Aeth prisiau ucha’r dydd o 3,800 gini i Gethin Mathias Buarth yr Oen Ffarmers, a 3,700 i Tom a Dafydd Jones Penlangwnnws Ystrad Meurig.

Beirniad y sioe foreol, a gynhaliwyd cyn y sêl, oedd Lewis Geufron, Llanidloes, a dyfarnwyd y wobr gyntaf am yr hwrdd blwydd gorau i hwrdd gan deulu Eisteddfa Fawr Brynberian, Sir Benfro.

Dyma gip ar fwrlwm y dydd.