Noson Agoriadol Cangen Tregaron

MERCHED Y WAWR

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Nos Fercher, 4 Hydref cynhaliwyd Noson Agoriadol y gangen yn y Neuadd Goffa. Y swyddogion sydd wrth y llyw eleni yw Manon Wyn James, Llywydd, Mags Rees, Ysgrifennydd ac Yvonne Jones y Trysorydd. Estynnwyd croeso i bawb gan Manon a diolchodd i’r cyn swyddogion am eu gwaith yn ystod y flwyddyn aeth heibio. 

Cofiwyd am yr aelodau oedd wedi bod yn anhwylus a hefyd am y rhai fu mewn profedigaeth yn ddiweddar. Llongyfarchwyd Bethan Bulman ar enedigaeth merch fach ac Esyllt Evans ar enedigaeth mab bach a dymunwyd yn dda i’r ddau deulu. Cyflwynwyd cardiau aelodaeth am y flwyddyn a diolch i Argaffwyr Lewis & Hughes am eu gwaith.

Ar ôl trafod rhai materion aeth Manon ymlaen i groesawu aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Tregaron oedd yn ein diddanu. Llongyfarchodd hwynt ar eu llwyddiant yn eu gwahanol feysydd ac yn enwedig am ennill Rali Ceredigion eleni. Edrychir ymlaen yn awr at groesawu’r Rali yn ôl i Dregaron y flwyddyn nesaf.

Cafwyd noson arbennig gan yr ieuenctid. Arweiniwyd y noson gan Megan ac Emrys a chafwyd amrywiaeth o adloniant yn ystod y nos gydag eitemau yn cynnwys llefaru, ymgom, cyflwyniad ar y piano, unawdwyr, Alaw Werin a dawnsio. Noson wych o adloniant a gwledd yng ngwir ystyr y gair.

Talwyd y diolchiadau gan Manon gan ddiolch yn gynnes i’r aelodau ifanc a’u harweinwyr am noson wych i ddechrau gweithgareddau’r tymor. Mae talent arbennig yn eu mysg a diolchwyd iddynt am roi o’u hamser i ymuno gyda’r gangen.

Enillwyd y gwobrau raffl gan Jeanniea Samuel a Sian Evans.

Paratowyd paned a lluniaeth hyfryd gan y pwyllgor a gwnaeth pawb gyfiawnder gyda’r bwyd blasus cyn troi am gartre.