
Enillydd yr Her Unawd – Efan Williams, Lledrod.

Andrea Parri o’r Bala, enillydd yr Her Adroddiad.

Sgen ti Dalent? ‘Oes glei’, meddai Mair Jones, Tregaron.

Prif Swyddogion Ysgol Henry Richard gydag enillydd Tlws yr Ifanc Siôn Wyn Evans, Felinfach a’r beirniad Arwel ‘Rocet’ Jones.

Yn ennill ei deuddegfed cadair. Andrea Parri o’r Bala.

Annabelle Bulman- yr unawdydd mwyaf addawol.

Gwion Jac Lewis-Hughes yr adroddwr mwyaf addawol.

MNM yn ennill Cwpan Clocsio’r Fron.
Bu’n benwythnos prysur wrth i Eisteddfod Gadeiriol Tregaron ddychwelyd i’r llwyfan am y tro cyntaf ers cyn clo. Diolch i Ysgol Henry Richard am eu cefnogaeth ar y Nos Wener. Bu’n bleser gwrando ar y talentau ifanc.
Diolch i bawb a fu’n cystadlu ar y Dydd Sadwrn crasboeth. Cafwyd perfformiadau disglair gwerth eu clywed. Hyderwn y ceir mwy o gystadlu ar y prynhawn Dydd Sadwrn y flwyddyn nesaf. Dyma’r her.
Gyda’r hwyr dychwelodd y bwrlwm wrth i leisiau cyfarwydd a newydd berfformio ar eu gorau. Ymlaen fyddo’r nod. Diolch am gefnogi.