Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi

Gwobr Cynnal y Cardi ‘Gweithio o’r Gwaelod Lan’

gan Eirwen James
IMG_3450
IMG_2143-1
IMG_3450-1

Llongyfarchiadau i aelodau Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi ar gipio gwobr ‘Gweithio o’r Gwaelod Lan’ yn Seremoni Cynnal y Cardi yn ddiweddar. Casglwyd y wobr gan y Cyng. Caryl Haf a’r Cyng. Pat Parry ar ran y Cynghorwyr.
Derbyniodd y Cyngor enwebiad hefyd am ‘Ymateb i’r Oes’ a ‘Barn y Bobol’ a pharatowyd fideo byr i gydfynd â’r ceisiadau.
Daeth yr anrhydedd yn sgîl ceisiadau am Grant Leader o £9,341. 35 nôl ym mis Mawrth 2022 gan alluogi derbyn sgrîn fawr aml-synhwyrol , camera aml bwrpas a mast, ail agor y stafell Snwcer a chynnal Clwb Ieuenctid i’r  bobl ifainc alw mewn. Trwy wirfoddoli, llwyddwyd i ddefnyddio amser cyfatebol er mwyn derbyn y cyfan yn rhad ac am ddim. Diolch i gymdeithasau’r pentref am eu cydweithrediad ac am gyfrannu syniadau.

Cofiwch fod yr adnoddau ar gael i’r Gymuned gyfan eu defnyddio dim ond i chi drefnu ymlaen llaw. Byddant yn cyfoethogi ein holl brofiadau.