Cynnal gwasanaeth teuluol Capel Bwlchgwynt

Yn dilyn seibiant dros yr haf roedd yn hyfryd cael ymgynnull nôl yn y festri ym mis Medi

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Yn dilyn seibiant dros yr haf roedd yn hyfryd cael ymgynnull nôl yn y festri ym mis Medi. Estynnwyd croeso cynnes i bawb i’r Oedfa Deuluol gan Parchg. Carwyn Arthur.

Cafwyd gwasanaeth bendithiol a chyflwynwyd yr emynau gan Nel James, Dutt Panchal, Heddwen Evans a Gerald Morgan. Darllenwyd Salm gan Anni Grug Lewis Hughes, Arthur Evans ac Ifan Lawlor ac offrymwyd gweddi gan Gwen Evans. Casglwyd gan Ifan Lawlor ac Osian Jones a chyfeiliwyd gan Gwyneth Davies. Cyhoeddwyd a diolchwyd i bawb am gymryd rhan gan Gareth Jones.

Dangoswyd fideo fer o Samaritans Purse, Christmas Child’ gan y Bugail. Roedd yn cyffwrdd â chalonnau i weld y plant mor hapus yn derbyn ac yn agor eu hanrhegion. Dosbarthwyd y bocsys ar ddiwedd y gwasanaeth a diolchir ymlaen llaw am bob cefnogaeth.

Clwb Ysgol Sul a Chlwb Ieuenctid Caron

Cynhelir Clwb Ieuenctid Caron ar brynhawn Mercher rhwng 5.30 a 7 o’r gloch – Blwyddyn 5 -7.

Prynhawn dydd Iau cynhelir Clwb Ysgol Sul rhwng 3.30 a 5.00 o’r gloch yn y festri.

Mae’r ddau glwb yn mynd yn arbennig o dda ac mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno yn yr hwyl ac i fwynhau’r gweithgareddau.