Bocsys Nadolig – Diolch o Galon ❤

Gofalaeth Caron

gan Eirwen James
IMG_0427

87 Bocs Nadolig ar eu ffordd i wneud gwahaniaeth.

Aeth Capeli Gofalaeth Caron ati i lanw bocsys ‘Operation Christmas Child’ er mwyn eu dosbarthu i wledydd lle mae’r angen mwyaf.  Mae’r ymgyrch yn tyfu bob blwyddyn a ‘r aelodau yn llanw’r bocsys yn ogystal â thalu am y cludiant fel rhan o neges y Nadolig.

Diolch i’r Parchedig Carwyn Arthur am arwain y prosiect a threfnu’r cyfan. Mae estyn llaw cymwynas ar draws y gwledydd mor bwysig ag erioed. Yr Eglwys ar waith yn y Gymuned Fyd Eang – Diolch i aelodau Capel Bwlchgwynt Tregaron, Capel Bethesda Llanddewi Brefi, Capel Penial Blaenpennal a Chapel Bwlchllan am eu haelioni.