Anrhydeddu Mair Jones

Gwasanaeth i ddathlu Mair yn derbyn y Wobr Gee yn Lledrod

gan Efan Williams

Ar ddydd Sul 22 Hydref, cynhaliwyd cwrdd arbennig yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod i anrhydeddu Mrs Mair Jones, Penllwyn, wrth iddi dderbyn Gwobr Medal Gee, am wasanaeth i’r Ysgol Sul.

Daeth tyrfa fawr ynghyd i ddathlu cyfraniad hynod werthfawr un o’r gweithwyr tawel a hoelion wyth capel Rhydlwyd ac i gydnabod cyfraniad enfawr Mair i waith yr Ysgol Sul yn Lledrod dros nifer o flynyddoedd. Roedd y gwasanaeth dan arweiniad Y Parchedig Aled Davies o Gyngor yr Ysgolion Sul a chymerwyd rhannau arweiniol gan aelodau’r Ysgol Sul, sef Dafydd Caeo, Mared Parry ac Efan Betts.

Roedd nifer fawr o gyn-aelodau’r Ysgol Sul wedi teithio nôl o bob cwr o Gymru i fod yn bresennol a thynnwyd eu lluniau gyda Mair. Cyflwynodd y Parch. Aled Davies y fedal i Mair gan ychwanegu tipyn o gefndir a hanes y wobr. Yna siaradodd Mair o’r galon gan ddiolch i bawb am bob gwerthfawrogiad a chefnogaeth dros y blynyddoedd. Roedd cael bod yn rhan o’r canu cynulleidfaol yn wefr gyda chymaint o dyrfa yn bresennol, oedd yn atgoffa o gyfnod pan oedd y capel yn orlawn ar y Sul. Cafwyd gwledd o de ar y diwedd wedi ei baratoi gan aelodau’r capel a chafwyd cyfle i hel atgofion a dal i fyny gyda hen ffrindiau.

Llongyfarchiadau enfawr i Mair a diolch o waelod calon am fywyd o wasanaeth i blant yr ardal a’r achos yma yn Rhydlwyd. Mae cyfraniad pobl fel Mair mor werthfawr. Mae’r geiriau yma o eiddo Eurig Salisbury yn addas wrth grynhoi;

Tra’r tyle, tra’r golomen,
Tra’r genedl a’r genhinen,
Cedwch yn daer o ddydd i ddydd
Eich ffydd, a byddwch lawen.

Diolch Mair!