Parti yn y parc! 

Efo Dafydd Pantrod ai Fand 

Cerith Evans
gan Cerith Evans

Cafwyd noson wych nos Wener ym mharc Tregaron, efo Dafydd Pantrod a’i fand wedi dod i ganu i’r gymuned. Daeth Dafydd a’i fand i ganu yng nghae parc Tregaron o 8 y.h tan 10y.h. Roedd yn êtgr clywed fod pawb wedi mwynhau y noson. Hefyd, hyfryd oedd gweld cymaint o’r trigolion lleol yno’n joio!

Dyma gyfle i gymdeithasu efo trigolion eraill yr ardal, noson hyfryd o glywed cerddoriaeth fyw ac hefyd yn gyfle i drigolion ddod i canu a dawnsio.

Er gwaetha’r glaw,  stopiodd hi fwrw erbyn i Dafydd Pantrod a’i Fand ddechrau canu ac roedd y noson yn llwyddiant.

Cyngor Tref Tregaron oedd wedi cael y syniad i drefnu’r noson er mwyn diolch i bawb yn y gymuned a wnaeth roi o’u hamser i wneud yr Eisteddfod yn llwyddiant. Erbyn hyn mae’r Eisteddfod wedi ein gadael ond rydyn i gyd yn falch o allu dweud fod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn ein tref ni, Tregaron.

Ar ran Cyngor Tref Tregaron hoffwn ddiolch i bawb am ddod i gefnogi nos Wener.