Nos Fercher, 7 Chwefror croesawyd yr aelodau ynghyd gan Lisa Jones, Is-Lywydd y gangen. Cydymdeimlwyd gyda’r aelodau oedd wedi bod mewn profedigaeth a dymunwyd yn dda i’r rhai oedd yn anhwylus ar hyn o bryd. Atgoffwyd ni o Barêd Gŵyl Ddewi a gynhelir ar ddydd Gwener, 1 Mawrth sydd yn dechrau o Ysgol Henry Richard am 1.30 y.p. Hefyd fe fydd y gangen yn dathlu Gŵyl Ddewi gyda Gareth Richards, Y Goedwig ar 6 Mawrth.
Cafwyd noson gartrefol yn chwarae Chwist gyda rhai ohonom yn fwy profiadol ac eraill heb chwarae ers blynyddoedd! Noson hwyliog a chyfle i gymdeithasu a chael clonc dros baned.
Diolchodd Ffion Medi i Lisa am lywyddu, i Yvonne am fod yng ngofal y Chwist ac i Ann Morgan ac aelodau Pwyllswyddog, Rhydyfawnog a’r Pentre am baratoi paned a bisgedi. Rhoddwyd y wobr raffl gan Ffion Medi ac fe’i henillwyd gan Mags Rees.