Ar ddiwedd Mis Hydref, cynhaliwyd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yng Nghaerfyrddin lle bu Sara Davies yn cystadlu yn yr adran waith cartref, gan wneud poster.
Ar ôl prysurdeb yr Eisteddfod, cafodd aelodau’r Clwb noson bleserus ac addysgiadol yn chwarae golff yng Nghlwb Golff Penrhos, Llanrhystud. Roedd rhai aelodau yn gyfarwydd iawn â chwarae golff, ac eraill yn newydd i’r gamp! Mwynheuodd pawb mas draw, yn enwedig y swper blasus ar ôl ‘ny!
Ar y 5ed o Dachwedd cynhaliwyd noson tân gwyllt ar gaeau Neuadd y Pentref. Daeth tyrfa fawr allan i weld yr arddangosfa tân gwyllt, gyda choelcerth fawr yn y cae, ac amryw o rocedi lliwgar yn goleuo’r awyr. Wrth ochr y neuadd yr oedd gemau hwylus i ddiddori’r plant, efo gêm dartiau, ‘splat the rat’, ac yn y blaen. Yr oedd bwyd a diod yn cael eu gweini yn y neuadd gan aelodau’r clwb. Noson lwyddiannus iawn, a bonws fod y tywydd wedi bod yn garedig iawn i ni.
Cynhaliwyd Diwrnodau Maes CFFI Ceredigion ar Fferm Brynllwyd, Pontsian ar ddydd Sul 27ain o Hydref a dydd Sadwrn y 9fed o Dachwedd, llongyfarchiadau mawr i bawb a fu’n cystadlu. Canlyniadau terfynol i aelodau’r clwb:
– Treialon cŵn defaid: 1af i Andrew Davies
– Tîm barnu stoc dan 18: 3ydd i Cerys Jewell, Angharad Lewis Griffiths, Osian Jenkins a Steffan Evans
– Unigolyn dan 18 yn y barnu stoc – 3ydd i Angharad Lewis Griffiths
– Tîm barnu stoc o dan 28 – 3ydd i Gwenllian Evans, Sioned Evans, Angharad Evans a Rebeca James
– Unigolyn dan 28 yn y barnu stoc – 4ydd i Rebeca James
– Fferm ffactor iau – cydradd 3ydd i Angharad Lewis Griffiths a Sara Davies.
Cynhaliwyd noson Chwaraeon Dan Do’r Sir yn Neuadd Llanddewi Brefi ar y 22ain o Dachwedd, a bu’r aelodau’n brysur yn paratoi’r neuadd ac yn gweini bwyd ar gyfer holl glybiau’r Sir. Roedd yr aelodau wedi bod yn cymryd rhan mewn nifer o gemau, a chafodd tîm Llanddewi Brefi llawer o lwyddiant efo Rhian Griffiths yn dod yn gyntaf yn y dartiau merched, Ceri Davies yn gydradd 3ydd yn chwarae drafftiau, Malen Jenkins yn ail yn y tennis bwrdd merched, a Cari Lewis, Mari Edwards a Seren Mayes yn gyntaf yn y tip-it.
Bu Steffan Evans yn cystadlu yn y barnu gwartheg bîff dan 16 oed yn y Ffair Aeaf ar ddiwedd Mis Tachwedd. Hefyd yn cystadlu yn y Ffair Aeaf oedd Rebeca James, yn y gystadleuaeth Prif Gynhyrchwr Porc. Cafodd Rebeca lwyddiant mawr, gan ennill y gystadleuaeth gyda’i moch, Beti a Bolgi, a gyda chymorth Sioned Evans i arddangos y moch yn y gystadleuaeth.
Cynhelir Cymanfa Garolau’r Frenhines a’r Ffarmwr Ifanc yng Nghapel Bethesda, Llanddewi Brefi ar nos Sul 15fed o Ragfyr am 7:30yh. Bydd elw’r noson yn mynd tuag at Ymchwil Cancr Cymru. Croeso i bawb.