Cantata’r Geni

Cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth 2025

gan Efan Williams

Roedd nos Sadwrn 23 Tachwedd yn noson arbennig iawn. Digwyddodd rhywbeth hollol unigryw na welwyd ei debyg o’r blaen. Cynhaliwyd cyngerdd cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth 2025 yn Eglwys San Mihangel, Aberystwyth, gyda pherfformiadau safonol gan Ddawnswyr Seithenin, Ensemble Telynau Gwasanaeth Cerdd Ceredigion a Linda Griffiths.

Fel rhan o’r noson cafodd y gynulleidfa niferus y wefr o fod yn dystion i premiere byd; Cantata’r Geni. Dyma osodiad arbennig o stori’r geni ar ffurf cerdd dant gan Bethan Bryn. Daeth cantorion, rhai yn brofiadol mewn cerdd dant ac eraill yn newydd i’r grefft, ynghyd dros gyfnod o rai misoedd i ymarfer bob nos Sul i ddod i afael â dysgu’r gosodiad heriol hwn.

Cafodd Merched Soar wahoddiad i fod yn rhan, ac roedd hefyd ambell aelod o Barti Camddwr yn y côr. Roedd hwn yn fraint enfawr a phrofwyd gwefr eithriadol o gael bod yn rhan o orchest sylweddol Bethan Bryn. Campwaith yn wir!

Dweud eich dweud