Cynhelir Lansiad Cynllun “Darllen Difyr – Give Welsh a Go!” ym mwyty’r Hungry Ram, Penuwch ar nos Fawrth y 9fed o Ebrill am 7.
Mae “Darllen Difyr” yn gynllun sydd wedi ei drefnu a’i ddarparu gan Ysgol Gynradd Rhos Helyg. Cyfres o wersi Cymraeg ar gyfer rhieni ac aelodau o’n cymuned yw “Darllen Difyr”, wedi eu darparu gan wirfoddolwyr lleol gyda chefndir addysgu Cymraeg a gyda’r pwyslais ar hybu rhieni i ddarllen gyda’i plant yn Gymraeg a chodi eu hyder wrth drafod llyfrau a gwaith gyda’i plant.
Bydd y lansiad yn noson hwyliog a chymdeithasol ym mwyty’r Hungry Ram, sef hen Ysgol Penuwch, oedd gynt yn un o’r ysgolion oedd yn rhan o deulu Ysgol Rhos Helyg. Bydd perfformiadau gan ddisgyblion Ysgol Rhos Helyg ar y noson a sesiwn ysgogi gyda Mererid Hopwood. Bydd cyfle hefyd i ddangos diddordeb mewn derbyn gwersi Cymraeg ac ymuno â grwpiau. Bydd hefyd wal fideo arbennig wedi ei baratoi gydag amryw o bobl yn esbonio sut mae siarad Cymraeg yn eu helwa nhw yn eu bywydau bob dydd a’r byd gwaith.
Rydyn ni mor ffodus fod Ysgol Gynradd Rhos Helyg yn galon i’r gymuned. Rydyn ni’n gwasanaethu dibenion addysg ardal eang, yn cynnwys pentrefi Llangeitho, Penuwch, Bethania, Blaenpennal, Bontnewydd, Bronant a Lledrod. Rydym yn ymhyfrydi yn ein cysylltiad gyda’r gymuned ac rydyn ni bob amser yn sicrhau lle teilwng i’r plant reit yng nghanol y gymuned honno.
Felly dewch yn llu i’r Hungry Ram ar nos Fawrth y 9fed o Ebrill i gefnogi ein hymgyrch ac i fwynhau noson hwyliog a chymdeithasol yng nghalon ein cymuned.