Cynhaliwyd prynhawn hyfryd yn goleuo’r goeden Nadolig yn Lledrod ar brynhawn dydd Sul y 1af o Ragfyr. Hyfryd oedd tynnu holl drigolion y pentref at ei gilydd i ddathlu cychwyn yr ŵyl.
Yn gyntaf cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig yn Eglwys Sant Mihangel, Lledrod. Daeth nifer fawr ynghyd yn yr eglwys i ganu carolau Nadolig. Cafwyd perfformiadau gan ddisgyblion Ysgol Rhos Helyg a diolch i’r pennaeth a’r staff am eu cefnogaeth. Cafwyd neges bwrpasol gan y Parchedig Julian Smith.
Yna cerddodd pawb i lawr i sgwâr y pentref a hyfryd oedd gweld pobl yn ymuno â ni wrth i ni gerdded heibio’r tai. Erbyn cyrraedd y sgwâr roedd tyrfa sylweddol wedi casglu ynghyd. Cafodd pawb lymaid o win poeth a mins pei wedi ei baratoi a’i wasanaethau gan aelodau CFFI Lledrod, yna canwyd carolau. Cafwyd perfformiad arall gan blant yr ysgol a hefyd perfformiad gan Barti Camddwr.
Diolchodd Efan i bawb am ddod ynghyd, i’r eglwys am drefnu’r gwasanaeth, i’r ysgol a Pharti Camddwr am gefnogi ac i’r CFFI am drefnu’r lluniaeth. Carem ddiolch o galon i bawb am ddod ac am sicrhau digwyddiad mor llwyddiannus oedd wir yn llonni’r galon.
Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i bawb oddi wrth holl drigolion Lledrod. Mae ysbryd y Nadolig yn fyw ac yn iach yn ein hardal er gwaethaf holl drybini’r byd, fel y dywed Eurig Salisbury;
Am beth yr o’n nhw, goeden werdd,
Eleni’n mynnu canu cerdd?
‘Am gariad, er pob trais a sen,
Nad yw byth yn dod i ben.’