Tregaron yn achub y dydd ar faes yr Eisteddfod

Prinder tywyswyr yng Nghylch yr Orsedd

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Yng nghanol prysurdeb yr Eisteddfod ar fore dydd Llun yr Eisteddfod, bu rhaid i Meilyr Hughes o Dregaron gamu i’r adwy!

Yn sgil profiad Meilyr yn y swydd hon y llynedd yn Nhregaron, roedd yn ddewis naturiol. Roedd e yn y lle iawn ar yr amser iawn a dyma fe yn cario Baner yr Orsedd mewn i Gylch yr Orsedd ar gyfer yr Agoriad Swyddogol.