Parcio am Ddim am dri Dydd Sadwrn cyn y Nadolig.

Ym meysydd parcio talu ac arddangos y Cyngor.

Cerith Evans
gan Cerith Evans
A3D3A4F3-6732-4656-AB18

Eleni eto mae’r Cyngor sir wedi penderfynu eu bod am adael i bobol barcio yn safleoedd parcio’r Cyngor am ddim yn ystod tri dydd Sadwrn cyn y Nadolig.

Maent wedi penderfynu gwneud hyn er mwyn rhoi hwb i fusnesau lleol a bach y trefi. Mae gadael i bobl barcio am ddim yn rhoi mwy o amser i siopa i bobl, a does dim angen poeni am fynd nôl i symud eu cerbydau.

Y tri dydd Sadwrn lle bydd yn bosib i barcio am ddim ydy’r 9/12/23,16/12/23 ac y 23/12/23.

Cefnogwch fusnesau lleol a bach eleni! 🎄🎅