Papur Bro Y Barcud

Rhifyn mis Ebrill allan yn y siopau

gan Efan Williams

Mae rhifyn mis Ebrill papur bro Y Barcud allan yn eich siopau lleol erbyn hyn. Golygwyd rhifyn mis Ionawr gan John a Menna Jones, Tynfron, Ffair Rhos a cheir sylw ar y dudalen flaen i lwyddiannau chwaraeon Ysgol Henry Richard, llwyddiannau Arthur Evans yn eistedfod yr ysgol a hanes Emily Smith-Jones yn torri ei gwallt i godi arian tuag at y Little Princess Trust.

Ceir hanes eisteddfodau Gŵyl Dewi ein hysgolion, adroddiad difyr Dyfan Jones, Abernac, Lledrod yn sôn am ei daith cneifio i Seland Newydd, mwy o hanes Capel Llwynpiod a cholofn amaeth misol Dafydd Owen, Penbryn, Bronant.

Ewch allan i hawlio eich copi a chefnogi ein papur bro. Dyma’r lleoliadau;

Aeron Booksellers, Aberaeron

Siop Glanarthen, Cross Inn

Siop y Smotyn Du, Llambed

Garej Jenkins, Tregaron

D.I. Davies, (Cigydd) Tregaron

Siop Brefi, Llanddewi Brefi

Siop Llangeitho

‘Rhen Ysgol, Bwlchllan

Llwyn Onn ac Ardwyn, Bronant

Anrhegaron, Tregaron

Siop Nwyddau Caron Stores, Tregaron

Siop y Bont, Pontrhydfendigaid

Llys yr Awel, Swyddffynnon

Wyre View, Lledrod (honesty box)

Siop Llanilar

Siop Blaenplwyf

Siop Inc, Aberystwyth

Siop y Pethe, Aberystwyth