Mae rhifyn mis Medi papur bro Y Barcud allan yn eich siopau lleol erbyn hyn. Golygwyd rhifyn mis Ionawr gan Eirlys Morgan, Ardwyn, Bronant a cheir sylw ar y dudalen flaen i lwyddiannau eisteddfodol; Nest Jenkins, Lledrod yn ennill Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd a Meleri Morgan, Bwlch-Llan yn ennill Her Adroddiad Eisteddfod Rhys Thomas James, Llanbedr Pont Steffan.
Ceir hanes taith gerdded blynyddoedd Ysgol Henry Richard, aduniad Ysgol Uwchradd Tregaron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwesty’r Talbot yn ennill Gwobr Tafarn y Flwyddyn, Cneifio Bont a hanes anrhydeddu gwirfoddolwyr eisteddfodau lleol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ewch allan i hawlio eich copi a chefnogi ein papur bro. Dyma’r lleoliadau;
Aeron Booksellers, Aberaeron
Siop Glanarthen, Cross Inn
Siop y Smotyn Du, Llambed
Garej Jenkins, Tregaron
D.I. Davies, (Cigydd) Tregaron
Siop Brefi, Llanddewi Brefi
Siop Llangeitho
‘Rhen Ysgol, Bwlchllan
Llwyn Onn ac Ardwyn, Bronant
Anrhegaron, Tregaron
Siop Nwyddau Caron Stores, Tregaron
Siop y Bont, Pontrhydfendigaid
Wyre View, Lledrod (honesty box)
Siop Llanilar
Siop Blaenplwyf
Siop Inc, Aberystwyth
Broc Môr, Aberystwyth