Noson Troi Golau Nadolig Tregaron Ymlaen.

Trefnir gan Gyngor Tref Tregaron.

Cerith Evans
gan Cerith Evans
3B71860B-4C07-4D25-818F
9EF06D28-11E8-473F-B551

Ar nos Wener, yr 1af o Ragfyr bydd golau Nadolig Tregaron yn cael eu troi ymlaen gan Arwel Jones, Cadeirydd Cyngor Tref Tregaron. Mi fydd y noson yn cael ei gynnal ar Sgwâr Fawr Tregaron ac yn dechrau am 6:30 tan 8:30. Bydd Ysgol Henry Richard, Merched Soar ac CFFI Tregaron yn eich diddanu, bydd bwyd yn cael ei wneud gan Gwmni Teifi Toasties a bydd diod poeth a mins pei hefyd ar gael.

Hefyd ar y noson bydd Campau Caron yn cynnal Ras Siôn Corn felly os ydych am gymryd rhan yn y ras mi fydd angen i chi gofrestru rhwng 7:00 – 7:30 ar y noson.

Dewch lawr i’r sgwâr fawr am noson llawn hwyl!

Croeso cynnes i bawb!