Y Llyffant – Cyfres deledu a ffilmwyd yn ardaloedd Tregaron, Llanddewi, Cellan a Llwynygroes

Ar achlysur pen-blwydd S4C yn 40, ychydig o sôn a fu am ddrama oedd yn cynnwys cymaint o bobl leol.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
48B324E5-D4F2-44F8-B608

Rebecca Kelly, Aled Jones a Sian Rowlands (Llun a gyhoeddwyd yn y Cambrian News).

E6D4A20F-01C1-4D72-B6B6

Clawr cylchgrawn Sbec Ebrill 7 – 13 1990

6FE1DB7F-224F-492A-8760

Sian Rowlands, Aled Jones a Rebecca Kelly gyda Ray Evans yr awdures a David Lyn y cynhyrchydd ar noson y dangosiad yn Neuadd Llanddewi ar nos Sadwrn 24ain Mawrth 1990. (Llun a gyhoeddwyd yn Clonc).

BF11B6EF-E421-4D43-8C32

Llun Gret Jenkins yn actio mamgu a gyhoeddwyd yn Sbec.

BFFC1FEB-A530-484A-9675

Gret Jenkins yn actio Mamgu (Llun a gyhoeddwyd yn Carmarthen Journal 11eg Ebrill 1990).

57828DB0-4C0E-4438-83F7

David Lyn y cynhyrchydd yn dangos i Dai Morgan sut i gydio yng nghlust Dylan Lewis.

002AD667-07AD-4B2C-86D2

Sian Rowlands fel Esther II a W J Phillips fel Mistir.

FDFFFD10-1DE4-4C5B-9206

Sian Rowlands fel Esther II (Llun a gyhoeddwyd yn Golwg)

E7816012-B130-43EC-AAD8

Rebecca Kelly fel Esther I (Llun a gyhoeddwyd yn Golwg).

03D7A6D3-95D3-497B-90FE

Gillian Elisa fel Mari y fam, Aled Jones fel brawd, Rebecca Kelly a Alun ap Brinley fel Tomos y tad. (Llun a gyhoeddwyd yn Golwg).

Haf 1989 oedd hi, saith mlynedd ers sefydlu S4C a Chwmni Ffilmiau Penadur yn ffilmio cyfres ddrama yn yr ardal a’i phencadlys dros dro yn Neuadd Llanddewi Brefi.

Roedd cyffro mawr yn lleol gyda phlant ysgolion y dalgylch yn actio o flaen y camerâu a phobl yr ardal yn cynorthwyo.  Cyfres ddrama chwe rhan oedd hon yn seiliedig ar gyfrol Ray Evans (Pencarreg gynt) sef Y Llyffant.

Y prif gymeriad oedd Esther a chwaraewyd gan ddwy ferch – Rebecca Kelly yn ddisgybl yn Ysgol Llanybydder fel Esther I a Sian Rowlands o bentref Silian fel Esther II.

Roedd y ddwy walltgoch yn cymryd eu tro i actio Esther – testun yr hunangofiant dychmygol am ferch o Bencarreg sy’n llawn syniadau am gariad a rhamant.  Er hyn, doedd y gyfres ddim yn rhy sentimental.  Roedd yna bethau digon cas yn digwydd.  Roedd hi’n dangos bywyd fel yr oedd e a dangos pa mor galed oedd pethau.

Fel myfyriwr chweched ar y pryd, ces i ran fechan ym mhennod chwech a chael actio Tom Hughes y disgybl-athro.  Ffilmiwyd golygfeydd tu fas yr ysgol ar safle hen ysgol Cellan a’r golygfeydd tu fewn yr ysgol yn hen Ysgol Llwynygroes.

Cofiaf fynd i hen dŷ yn Nhregaron i ffilmio cartref Tom Hughes a ffilmio Clychau’r Gog mewn coedwig ar dir Gogoian.  Ffilmiwyd golygfeydd yn Llanddewi Brefi hefyd.

Dyma a ysgrifennodd Dylan Iorwerth yn Golwg:

Yn Llanddewi Brefi y mae’r ffilmio yn digwydd, un o’r ychydig ardaloedd sy’n ddigon hynafol yr olwg i edrych fel Llanybydder cyn y rhyfel.  Ym myd teledu, mae popeth yn rhywbeth arall.

Ymwelodd David Lyn y cynhyrchydd a bron pob ysgol yn Nyffryn Teifi i ddod o hyd i blant i actio yn y gyfres.  Yn ogystal â Rebecca a Sian, bu plant eraill yn actio yn y gyfres hefyd.  Cafodd Aled Jones o Lanwnnen rhan y brawd a bu nifer o blant eraill yn actio fel ffrindiau Esther.  Ochr yn ochr â’r plant roedd actorion profiadol S4C.  Dyma restr (anghyflawn) ohonynt:

Esther I – Rebecca Kelly

Esther II – Sian Rowlands

Mari – Gillian Elisa

Tomos – Alun ap Brinley

Mamgu – Gret Jenkins

Tadcu – Glanffrwd James

Sam – Aled Myrddin Jones

Canon – Aled Williams

Lisi – Tina Thomas

Meri – Elvira Williams

Ned – Gordon Jones

Denzil – Rhun Williams

Mistir – W J Phillips

Trefor – Rhidian Tomos Davies

Sali – Lona Wyn Thomas

Gwen – Lisa Jones

Mam Trefor – Beti Jones

Wil Bwtshwr – Nefydd Roderick

Mr Jones – William Vaughan

Griffith John – Glyn Davies

Martha – Sue Jones Davies

Wil – Emlyn Jones

Sgt Davies – Geraint Lewis

Hamish Rees – Glan Davies

Mrs Rees – Glesni Wyn

Dic Bwtshwr – Rhidian Evans

Dai Bananas – DerecBrown

Sarah Bananas – Elsie Margaret

Henri Bananas – Dylan Pugh

Tomi – Gethin Howells

Defi Bananas – Elfyn Pugh

American Tailor – Gwyn Parry

Gof – Andrw Felindre

Tom Pantscawen – Ifan Jones

Bilo Geir – Gerald Morgan

Miss – Catrin Llwyd

Maud – Dwynwen Huws

Edith – Heini Jones

Miss Prydderch – Buddug Williams

Nyrs – Judith Humphreys

Mam Tom – Hannah Roberts

Ffarmwr – Dai Morgan

Yn bendant, roedd y gyfres yn cynrychioli darlun o fywyd yng ngorllewin Cymru ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf.  Fe ailddarlledwyd y gyfres ar S4C ym 1993.  A fyddai hi o ddiddordeb i wylwyr y sianel heddiw?  Neu beth am ei chynnwys ar S4C Clic?

Tybed a oes gan eraill o ddarllenwyr Caron360 luniau ac atgofion o’r ffilmio a ddigwyddodd yn ein milltir sgwâr?