Clecs Caron – Trystan Edwards

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron. Y mis ’ma, Trystan Edwards.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
Llun-TE

I ddarllen yr holl gyfweliad, prynwch rhifyn nesaf o bapur bro’r Barcud.

Enw: Trystan Edwards
Cartref: Llandaf, Caerdydd.
Teulu: Eirian fy ngwraig a’r plant Deio (17oed) a Mared (13 oed).
Gwaith: Prifathro Ysgol Garth Olwg, Pontypridd.

Beth yw dy gysylltiad â Bro Caron?
Mab i’r diweddar y Parchedig Wynne Edwards, ac Elsbeth Edwards sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cefais fy magu yn Nhregaron ac wedi byw yno nes dechrau fy swydd gyntaf yng Nghaerdydd yn 1996.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Diffuant, Triw a Phositif.

Unrhyw hoff atgof plentyndod.
Yr holl atgofion o chwarae yn y parc yn Nhregaron – dyddiau da yn wir.

Beth oedd swydd dy freuddwydion pan yn blentyn?
Chwarae pêl-droed i Lerpwl!

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.
Roedd cyngerdd ysgol yn cael ei gynnal yng Nghapel Bwlchgwynt ac fe wnes i faglu wrth fynd i’r pulpud i gymryd rhan. Ma’r wyneb yn cochi wrth gofio am y cyfan!

 Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.
Roedd lot o fynd a dod gyda rhai materion sensitif yn cael eu trafod yn y Mans (Neuadd Wen) pan yn blentyn. Roedd gwbod pryd i fynd i’r lolfa i ddweud helo a phryd i gadw draw (gan beidio gofyn pam) a mynd lan lofft o’r ffordd yn rhinwedd bwysig.

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?
Cer i weld y byd cyn i ti setlo a chael dy swydd gyntaf.

Y peth gorau am yr ardal hon?
Y bobl, harddwch cefn gwlad a’r cig gorau!

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?
Mae angen gwell ffordd i gysylltu De, Canolbarth a Gogledd Cymru gan bod hi’n anodd taro adre gan fod y daith yn rhy hir.

Beth yw dy ddiddordebau?
Pêl-droed, golff, cadw’n heini a choginio.

Beth sy’n mynd ar dy nerfau?
Pobl dau-wynebog, Cymry Cymraeg sy’n magu eu plant drwy’r Saesneg ac unrhyw un sy’n meddwl y gallant redeg/arwain ysgol a hynny heb weithio diwrnod fel athro eu hunain.

Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn ei wario?
Cyfraniad hael i Dy Hafan. Cynnig maes 3G i dimoedd chwaraeon Tregaron. Citiau newydd i holl dimoedd chwaraeon Garth Olwg. Prynu tŷ yn Cortina ger mynyddoedd y Dolomites!

Beth sy’n codi ofn arnat?
Ieir ers cael fy mhigo yn blentyn. Hoff iawn o wyau fodd bynnag!

Pryd llefaist ti ddiwethaf?
Pan fu farw fy ffrind annwyl sef Dafydd Lewis oedd yn 48 oed yn Haf 2023. Mae’n parhau i’m gwneud yn drist iawn.

Beth wyt ti’n fwyaf balch ohono?
Fy ngwreiddiau a fy nheulu – rwy mor ffodus ohonynt.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?
Stecen (o Dregaron yn amlwg) gyda sglodion. Bendigedig.

Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen?
Llyfrau Adam Kay sy’n ddoniol iawn a mae’n werth gwylio ‘All the light we cannot see’ ar Netflix.

Dere ag un ffaith ddiddorol amdanat ti.
Pan yn blentyn bach nid oeddwn yn medru dweud ‘r’ yn gywir. Fodd bynnag gyda llawer o ymarfer a gwaith gwych y therapydd lleferydd roeddwn yn medru erbyn fy mod tua 11 oed.

Naill ai neu:

  1. Rygbi neu bêl-droed? Erbyn hyn pêl-droed.
  2. Y traeth neu’r mynyddoedd? Mynyddoedd.
  3. Nadolig neu ben-blwydd? Nadolig.
  4. Ffilm neu nofel? Ffilm.
  5. Creision neu siocled? Siocled.
  6. Bara gwyn neu frown? Brown.
  7. Tywydd oer neu dwym? Twym.
  8. Codi’n gynnar neu aros lan yn hwyr? Aros lan yn hwyr.
  9. Starter neu bwdin? Starter.
  10. Ci neu gath? Cwn yn bendant gan bod gyda fi alergedd at gathod!
  11. Tu fewn neu tu fas? Tu fas.