Dirgelwch y beibl

Chwilota hanes teulu ardal Tregaron

gan Cyril Evans
IMG_20230412_125242

Clawr y beibl

IMG_20230412_131228

Clawr rhestr Adysgrifau Capel Bwlchgwynt

IMG_20230412_123913

Tudalen flaen y beibl

Yn ddiweddar cyflwynwyd Beibl i Ganolfan Treftadaeth Tregaron. Roedd yn cynnwys rhestr o enedigaethau, ac yn benodol claddedigaethau yn fynwent Capel Bwlchgwynt, ond dim gwybodaeth bellach.

Mae gan y Ganolfan restri o adysgrifau cofebion ym mynwentydd Capel Bwlchwynt, Eglwys Sant Caron a Chapel y Wesleiaid, felly aed ati i ymchwilio ymhellach.  Cwblhawyd y cofrestri gan Gymdeithas Hanes Teuluoedd Ceredigion, ac mae’n adnodd bendigedig i bawb sy’n chwilota am hanes teulu neu hanes lleol.

Llwyddwyd i ddod o hyd i’r rhai sydd wedi’i cofnodi yn y Beibl, ac yn dilyn chwilota drwy restr yr adysgrifau llwyddwyd i gadarnhau mae teulu Edwards Ffoshalog oeddynt.  Yn ychwanegol cofnodwyd i’r beibl cael ei gyflwyno i Maggie Blodwen Evans, Dolfor House, Tregaron ym mis Ionawr 1950, ar ôl ei modryb Anti Nelli chwaer ei mam.  Tybed os Nellie yw’r Eleanor sydd wedi’i rhestr ac a gladdwyd yn 1936 yn 84 mlwydd oed?  Bydd nifer ohonoch yn siwr o gofio Maggie Dolfor yn Nhregaron?

Byddai’n dda cael gwybod faint o’r teulu yma a’u cysylltiadau sy’n dal yn byw yn yr ardal?  Mae’r Beibl bellach ar gadw yn y Ganolfan, ac mae modd i bawb ei weld.

Mae’r Ganolfan wedi ail-agor ei ddrysau am dymor yr Haf, ac mae ar agor pob dydd Llun, Mercher a Gwener rhwng 11.00am – 3.00pm.    Mynediad am ddim!

Am wybodaeth bellach, neu os am ymuno gyda’r tîm o wirfoddolwyr, neu i drefnu taith arbennig i grŵp, ffoniwch (01974) 298 977 neu 07799231999

Edrychwn ymlaen i’ch croesawu