Cyngerdd Blygain Lledrod

Noson anffurfiol yn naws traddodiad y Blygain

gan Efan Williams
Poster-Cyngerdd-Blygain-Lledrod

Cynhelir Cyngerdd Blygain anffurfiol yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod ar nos Lun 30 Ionawr am 6.30yh.

Wedi gorfod canslo Gwasanaeth Carolau blynyddol y capel oedd i fod i ddigwydd ym mis Rhagfyr oherwydd y tywydd garw, penderfynwyd cynnal Cyngerdd blygain am y tro cyntaf. Y syniad yw i ddod ynghyd mewn awyrgylch anffurfiol a chartrefol i groesawi’r flwyddyn newydd yn naws traddodiad hynafol y blygain, neu’r “bylgen”, fel sydd yn cael ei glywed ar lawr gwlad yn yr ardal hon.

Bydd yna nifer o garolwyr yn cymryd rhan ar y noson, yn amrywiaeth o unigolion, triawdau a phartïon, ac wrth gwrs, mi fydd croeso i unrhyw aelod o’r gynulleidfa godi i gyflwyno carol blygain. Byddwn yn osgoi ail-ganu unrhyw garol, felly gwell cael cwpwl wrth gefn, rhag ofn!

Yn ôl y traddodiad, bydd pawb sydd wedi cyflwyno carol, boed yn fab neu’n ferch, yn ymuno i ganu Carol y Swper ar ddiwedd y cyfarfod, a bydd croeso i bawb ymuno gyda ni am baned a thipyn o luniaeth ar y diwedd.

Ceir blas o ganu plygain wrth glicio ar y linc sain uchod.

Edrychwn ymlaen at agor drysau Capel Rhydlwyd, Lledrod ar nos Lun 30 Ionawr a gobeithio eich gweld chi yno!

Croeso mawr i bawb!