Colofn Dafydd Owen, Penbryn

Colofn misol Dafydd Owen, Penbryn, Bronant, a gyhoeddwyd yn rhifyn mis Ionawr o bapur bro Y Barcud

gan Efan Williams

COLOFN DAFYDD OWEN

Dwi braidd yn hwyr yn sgwennu’r cyfraniad yma felly mae’r Nadolig wedi ei ddathlu a’r Flwyddyn Newydd wedi cyrraedd.  Blwyddyn Newydd Dda i bawb.  Cawsom un eithaf tawel a chanolbwyntio ar ddal lan â’r teulu a gwneud ambell i dwt ar y fferm.  Un o’r gweithgareddau cyntaf yn y Flwyddyn Newydd yw sganio’r defaid, yr arholiad blynyddol sy’n dangos yn glir sut mae’r ddiadell, ac felly’r bugail, wedi dygymod â heriau’r flwyddyn flaenorol.  Hyd yma’r sôn yw bod effaith yr haf sych a hydref gwlyb i’w weld yn glir ar ddefaid, ond bydda i’n gwybod cyn diwedd yr wythnos.

Y mesur arall sy’n dangos sut mae pethau’n mynd yw’r un ariannol wrth gwrs.  Fe werthais lond trelar o ŵyn ddechrau Rhagfyr a chefais fy synnu o’r ochr orau ar eu pwysau a’u safon ar y bachyn.  Ar ôl glaw Tachwedd nid oeddent yn edrych yn arbennig ar y cae, braidd yn frwnt ac roedd rhywfaint o lau arnynt mae’n rhaid gan fod sawl cwlwm o wlân wedi ei dynnu yn rhydd trwy grafu.  Ers mis Hydref mae’r ŵyn i’w lladd ym Mhenbryn wedi bod yn pori’r adle ar ôl y silwair a barlys ac roedd y glorian yn dangos eu bod nhw wedi gwneud yn well nag oeddwn i’n medru gweld.  Deugain kg yw’n nod cyn danfon ŵyn i’w lladd a ni chefais unrhyw ffwdan i ddethol 30 allan o’r 54 oedd ar ôl.  Ar ôl siom yr haf pan anfonais lwyth i’w gwerthu heb eu pwyso ond i ddarganfod eu bod yn ysgafnach na’r disgwyl ac wedi graddio’n o wael, roedd yn rhyddhad.  Y tro yma roedd y daenlen graddio dwi’n derbyn yn ôl o’r lladd-dy hefyd yn cadarnhau bod yr ŵyn wedi gwneud yn iawn ar yr adle.  Petawn i’n cael fy amser eto baswn i wedi ffonio’r lladd-dy ar unwaith a chludo deg neu ddwsin arall yno cyn y Nadolig.  Yn anffodus roeddwn wedi oedi gormod cyn gafael yn y ffôn a nawr bydd y llwyth yn mynd yr un diwrnod a’r sganio.  Bydd e’n ymestyn diwrnod hir ond a bod y pris yn dal ei dir bydda i’n ddigon hapus.

Dwi’n ei chael hi’n fwy anodd i gael defaid Brynda i fyny at y pwysau hoffwn i.  Os nad yw’r ŵyn i’r lladd-dy yn cyrraedd 15kg mae yna ostyngiad sylweddol yn y pris, ac os nad ydynt yn cyrraedd 14kg mae yna ostyngiad syfrdanol.  Mae Brynda ychydig yn uwch na Phenbryn ac nid yw’r rhan helaeth o’r ddaear wedi ei ail-hadu ers degawdau.  O ran ffermio mae’r ateb yn syml, ail-hadu’r ddaear a chadw mwy o stoc arno.  Ond mae’n anodd dyfalu beth fydd y gefnogaeth ar gyfer ffermwyr dros y ddegawd nesaf, efallai mai’r ateb mwyaf buddiol bydd cadw hyd yn oed llai o ddefaid ac ymuno gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu ar gyfer 2025.  Nid y tywydd fydd yr unig her dros y dair blynedd nesaf.