Clybiau lleol ar y brig!

Canlyniadau a lluniau Rali CFFI Ceredigion

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

CFFI Tregaron (a’r eliffant!) yn dathlu dod yn fuddugol ar ddiwedd diwrnod cystadlu yn Rali Ceredigion.

received_210573941359100-1

Delun Davies yn gyntaf yn y crefft.

received_220245827470136-1

Cari Davies yn ail yn y blodau.

‘Rŵm fach’ Tregaron.

Megan ac Elin yn dod yn ail yn y coginio.

Yr eliffant yn y Prif Gylch.

received_1483862832412104-1

Jac ac Emrys yn dathlu enill y coedwigaeth iau.

Ail-greu golygfa. Tregaron yn gyntaf.

received_222070596958523-1

Meleri a Megan o glwb Llangeitho yn ail-greu golygfa.

received_777861243923132-1

Hefin a Meleri yn arddangos sgiliau syrcas.

Aled ac Arwel yn ennill y coedwigaeth.

Criw dawnsio Llangeitho.

Arddangosfa Prif Gylch Llangeitho.

Criw dawnsio Llanddewi Brefi.

Lowri yn cipio’r wobr gyntaf am ei blodau.

received_965975014743536-1

Criw stoc Lledrod.

Merched TOW Llanddewi.

received_1422852651782139-1

Bleddyn a Gwion yn dod yn ail yn y coedwigaeth iau.

received_795447345260284

Cofinio Llanddewi Brefi.

Daeth llwyddiant mawr i glybiau ffermwyr ifanc Bro Caron yn Rali Ffermwyr Ifanc y Sir ddoe. Clwb Tregaron a ddaeth i’r brig ar ddiwedd y cystadlu. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw! Roedd clwb Llanddewi Brefi yn ail, gyda Lledrod yn 4ydd a Llangeitho yn 9fed.

Llongyfarchiadau i bawb!! Mae amlwg bod aelodau’n hardal wedi bod yn brysur iawn iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf yn ymarfer, creu, hyfforddi, dysgu a chydweithio. Daliwch ati.

Dyma ganlyniadau Clwb Tregaron

Crefft. 1af i Delun Davies
Blodau. 2il i Cari Davies
Coginio. 2il i Megan Thomas ac Elin Williams.
Daeth y clwb yn gyntaf yng nghystadleuaeth yr aelodau.
Dawnsio. 1af
Ail-greu Pennod neu Sgets Enwog o Raglen Deledu neu Ffilm. 1af
Coedwigaeth iau. 1af i Emrys Jones a Jac Jenkins.
Arddangosfa’r prif gylch. 1af
Arddangosfa Ffederasiwn. 2il
Barnu defaid. 6ed

Dyma ganlyniadau Clwb Llanddewi Brefi-

Dawnsio. 4ydd
Hyrwyddo Clwb. 3ydd
Arddangosfa Prif Gylch. 3ydd
Coedwigaeth iau. Cydradd 2il i Gwion Pugh a Bleddyn Holgate.
Cystadleuaeth barnu holsteins. Tîm yn 3ydd (Angharad Lewis-Griffiths, Teleri Lewis-Griffiths a Rebeca James) gyda Teleri dod yn 2il o dan 21.
Cystadleuaeth barnu moch. Tîm yn gydradd 3ydd sef Gwenllian Evans, Angharad Evans a Cari Fflur Lewis, gyda Rebeca James yn 1af a Gwenllian Evans 2il o dan 28.
Cystadleuaeth yr Aelodau. 5ed
Gwneud arwydd. 3ydd
Tynnu’r Gelyn merched. 1af
Enillodd Sioned Evans y barnu defaid dan 28 fel aelod unigol hefyd.

Dyma ganlyniadau Clwb Lledrod –

Barnu Defaid Charollais- 1af i’r tîm sef Gethin Davies, Staffan George a Macsen Parey. Daeth Gethin Davies yn 1af dan 16 oed neu iau ac ennill y cwpan am yr unigolyn â’r marciau uchaf yn y barnu defaid a chwpan yr unigolyn gorau 16 oed neu iau yn y barnu stoc! Hefyd daeth yn 3ydd yn y barnu gwartheg Holstein.
Blodau dan 28. 1af Lowri Thomas, Lledrod
Tablo. 2il
Coedwigaeth iau. 2il i Iolo James a Jac Lewis.
Cneifio. 3ydd i’r tîm sef Dyfan Jones a Guto James. Daeth Dyfan yn 3ydd fel unigolyn dan 28 hefyd.

Dyma ganlyniadau Clwb Llangeitho –

Coedwigaeth. 1af i Aled Jones ac Arwel Jones.
Arddangosfa Sgiliau Syrcas. 1af i  Hefin Ebenezer a Meleri Morgan.
Ail-greu Pennod neu Sgets Enwog o Raglen Deledu neu Ffilm. 2il i Meleri Morgan a Megan Dafydd.
Arddangosfa Ffederasiwn. 6ed
Dawnsio. 6ed
Barnu moch. Daeth y tîm yn 3ydd, sef Sian Downes, Ellen Rooke a Bethan James, gydag Ellen yn dod yn 3ydd o dan 21.
Arddangosfa Prif Gylch. 6ed

Cafwyd diwrnod hyfryd a braf iawn yn Rali Felinfach. Edrychwn ymlaen at Rali leol yn 2024, ym Mro Caron!

Bydd mwy o luniau a fideos yn ymddangos yn y stori nesaf.