Capel Bwlchgwynt

Gwasanaeth Teuluol

Delyth Rees
gan Delyth Rees

GWASANAETH TEULUOL

Cynhaliwyd Gwasanaeth Teuluol ar fore Sul, 15 Ionawr yn y festri ac estynnwyd croeso cynnes i bawb gan y Bugail. Cyflwynwyd yr emynau gan Ann Evans, Gwion Lewis-Hughes, Ifan Lawlor a Delyth Rees. Darllenwyd gan Grug Lewis-Hughes ac offrymwyd gweddi gan Arthur Evans. Cafwyd eitem hyfryd gan barti bach o blant yr Ysgol Sul a diolch i Grug, Gwion, Ifan, Magi, Arthur a Gwen am ganu mor swynol. Cafwyd neges fendithiol gan y Bugail ac fe ddangosodd lyfr gyda thudalennau gwag!

Gydag ychydig o hud a lledrith fe ail agorodd y llyfr a gwelwyd lluniau o wahanol storiau o’r Beibl. Roedd y plant wrth eu bodd ac wedi eu synnu gyda’r tric!!

Cyfeiliwyd gan Catherine Hughes a chasglwyd gan Cerith Evans. Cyhoeddwyd a diolchwyd i’r plant gan Ifan Gruffydd Jones.