Canolfan Deulu Tregaron yn Wythnos Gwirfoddoli

Cyfle i ddweud Diolch

gan Catherine Hughes
285A92FE-0F69-49C3-B52F

Ann, Margaret, Catherine a Linda

BA536AB2-8237-410D-839D

Sesiwn Aros a Chwarae

35761F2B-2774-444B-8CA4

Linda sydd yn gwirfoddoli yn wythnosol

Yn ystod wythnos y Gwirfoddolwyr cafwyd dathliad hyfryd yn sesiwn “Aros a Chwarae” a “Mannau Cynnes” y Ganolfan Deulu yn y Neuadd Goffa.

Cafwyd cyfle i ddiolch i’r Ymddiriedolwyr Margaret, Catherine, Ann, Mary ag Esyllt am eu holl waith caled tu ôl i’r llenni ac i Linda sy’n troi lan bob wythnos i helpu allan ac yn dod â chacennau blasus gyda hi i bawb.

Danfonwyd neges o ddiolch i Linda gan Ben Lake AS. Wrth gwrs, mae tîm arbennig o staff yn y Ganolfan ac mae pawb yn gwerthfawrogi gwaith caled Karli a Liesbeth.

Mae’r Ganolfan yn hynod o ddiolchgar am y rhodd o £1000 oddiwrth cyfarwyddwyr Whilen y Porthmyn gan fod y mudiad hynny wedi dod i ben. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun “Mannau Cynnes” yn medru parhau am nawr.