Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
87 Bocs Nadolig ar eu ffordd i wneud gwahaniaeth.
Aeth Capeli Gofalaeth Caron ati i lanw bocsys ‘Operation Christmas Child’ er mwyn eu dosbarthu i wledydd lle mae’r angen mwyaf. Mae’r ymgyrch yn tyfu bob blwyddyn a ‘r aelodau yn llanw’r bocsys yn ogystal â thalu am y cludiant fel rhan o neges y Nadolig.
Diolch i’r Parchedig Carwyn Arthur am arwain y prosiect a threfnu’r cyfan. Mae estyn llaw cymwynas ar draws y gwledydd mor bwysig ag erioed. Yr Eglwys ar waith yn y Gymuned Fyd Eang – Diolch i aelodau Capel Bwlchgwynt Tregaron, Capel Bethesda Llanddewi Brefi, Capel Penial Blaenpennal a Chapel Bwlchllan am eu haelioni.