“Alba”!

Y sioe orau erioed i Ffermwyr Ifanc Tregaron.

gan Ianto James
Sgetsh Braveheart, 1af

Sgetsh Braveheart, 1af

Y criw dawnsio, yn ennill trydydd

Y criw dawnsio, yn ennill trydydd

Cari Davies, 1af gosod blodau hyn

Cari Davies, 1af gosod blodau hyn

Emrys Jones a Jac Jenkins, 2ail Coedwigaeth iau

Emrys Jones a Jac Jenkins, 2ail Coedwigaeth iau

Delun Davies, 1af Crefft Iau

Delun Davies, 1af Crefft Iau

Cystadleuaeth 'Y Cylch Mawr' Y Syrcas,2ail

Cystadleauaeth ‘Y Cylch Mawr’ Y Syrcas, 2ail

Yn dilyn llwyddiant Clwb Ffermwyr Ifanc Tregaron yn Rali’r Sir mis Mai eleni aeth chwe eitem llwyddiannus ymlaen i’r Sioe Fawr yn Llanelwedd, gan ennill gwobr ym mhob cystadleuaeth. Cafwyd tair gwobr gyntaf, dwy ail wobr ac un trydydd- a gwnaed cyfraniad da i gyfanswm Ceredigion- Y Sir Fuddugol.

Cyntaf-

Sgetsh Braveheart

Delun Davies, Crefft

Cari Davies, Blodau

Ail-

‘Y Prif Gylch’ Syrcas

Coedwigaeth Iau

Trydydd-

Dawnsio Iau

Roedd Emyr Lloyd, un o ffrindiau’r clwb yn gyffrous iawn wrth ymateb i lwyddiant ennill y wobr gyntaf am y Sgetsh ‘Braveheart,'”Iasu mawr, da iawn bois,” meddai.

Roedd y gynulleidfa wedi mwynhau perfformiad y sgetsh wrth i’r criw ifanc ddal acen Albanaidd trwy’r cyfan a gorffen gyda’r waedd enwog “Alba”!