Talwrn y Partion Gwerin

Parti camddwr yn y Tŷ Gwerin

gan Efan Williams

Cynhaliwyd Talwrn y Partïon Gwerin heddiw yn y Tŷ Gwerin. Roedd yn sesiwn hwyliog a llawn sbort a sbri a chanu gwerin afiaethus. Yn cymryd rhan, ac yn cynrychioli Ceredigion oedd Parti Camddwr o ardal Lledrod ac yn eu herbyn oedd Parti Llŷn ac Eifionydd, yn cynrychioli eisteddfod y flwyddyn nesaf.

Cafwyd cwestiynau yn seiliedig ar wahanol elfennau o ganu gwerin, ac roedd yr ateb bob amser yn gân werin! Agorwyd y sesiwn gyda Chwestiwn y gân serch, a pherfformiwyd Mari Fach fy Nghariad gan barti Camddwr. Aeth pob math o eitem ymlaen wedyn gyda’r partïon naill ai yn ateb gyda chân ar y cyd neu yn enwebu unawdydd. Un o’r uchafbwyntiau oedd Ddaw Hi Ddim, gan Dafydd Jones a chafwyd digon o jiamocs gyda John Glant Griffiths a Lynn Davies, Tynddraenen heb anghofio am Efan yn cawlio’r lliwiau-ond stori arall yw honno!

Clo y sesiwn oedd y ddau barti yn perfformio Sianti Fôr, ac yna daeth yn amser i gyfrif y sgoriau, a chafwyd “gêm gyfartal”, gyda’r ddau barti yn ennill 54 o bwyntiau yr un gan y beirniad, Delyth Medi!

Pleser a braint oedd cael y cyfle i gymryd rhan yn y sesiwn ardderchog yma a’r lle ddan ei sang. Roedd wir yn hŵt a hanner!