Swper Bara a Chaws: Rhoi Diolch Trwy Roi

Cymuned Bronant yn Cefnogi Banc Bwyd Aberystwyth

gan Delyth Humphreys

Bu dathliadau diolchgarwch gwahanol i’r arfer yng Nghapel Bronant eleni. Trefnwyd swper bara a chaws ar gyfer y gymuned gyfan a oedd yn cynnwys oedfa fer ddwyieithog. Casglwyd £250 a hefyd llwyth o nwyddau ar gyfer Banc Bwyd Aberystwyth ac mae’r diolch yn fawr iawn i’r gymuned am ei chefnogaeth a’i haelioni. Cafwyd noson gymdeithasol hyfryd a neb ar hast i fynd adre!