Sion ‘Darts’ o Langeitho yn cystadlu yn Gibraltar

Sion Lewis Davies, 12 oed yn chwarae dartiau yn nhîm Cymru

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Sion gyda’r bwrdd dartiau.

Rhai o ddisgyblion Caron 8 yn dymuno’n dda i Sion.

Mae Sion Lewis Davies, neu Sion ‘Darts’ fel mae’n cael ei alw yn yr ysgol, yn teithio i Gibraltar wythnos nesaf i gystadlu mewn pencampwriaethau dartiau i’r ifanc.

Mae 18 gwlad yn cystadlu yno i gyd  ac mae dau dîm o Gymru. Mae un tîm Cymru, sef tîm Sion, yn rhan o’r Academi Ddartiau yn Llambed. Dywedodd Sion eu bod yn ymarfer bob nos Fercher yn y Castle Green. Mae hefyd ganddo fwrdd dartiau adref ac mae’n ymarfer gyda’i dad yn aml, yn enwedig yn ddiweddar wrth baratoi ar gyfer wythnos nesaf.

Bydd yn cystadlu mewn 4 cystadleuaeth o dan 18, gan gynnwys y Cwpan y Byd JDC i dimoedd a’r Bencampwriaeth Gibraltar Agored.

Bydd yno am wythnos, a bydd yn erbyn ei grys Cymru ddydd Llun.

Yn yr ysgol heddiw, derbyniodd garden POB LWC oddi wrth ei ddosbarth, Caron 8. Buodd Sion yn ymarfer amser cinio yn yr ystafell Fathemateg hefyd a churodd Mr Davies mewn gêm! Da iawn ti Sion a phob lwc yn Gibraltar!